Gradd 4 - £26,847 am 12 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig am 52.14 wythnos y flwyddyn sy'n cyfateb i £8,707.14 pro rata
Gweithiwr Cymorth ar gyfer Gwasanaeth Byw â Chymorth Fernside, Penfro (12 awr)
Ydych chi'n amyneddgar, yn bositif ac yn frwdfrydig i helpu pobl i fagu sgiliau a byw bywyd ar eu telerau eu hunain?
Rydym yn chwilio am weithwyr cymorth achlysurol i ymuno â'n gwasanaeth byw â chymorth blaengar, sy’n cefnogi tenantiaid ag awtistiaeth ac anableddau dysgu i gael y cyfle i weithio tuag at fywyd annibynnol.
Rydym yn defnyddio dull cefnogi ymddygiad yn gadarnhaol i helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau a'u llesiant.
Mae ein hymagwedd yn syml: rydyn ni’n gweithredu gyda phobl, nid ar eu cyfer nhw. Rydym yn cefnogi tenantiaid i wneud dewisiadau, datblygu sgiliau bob dydd, a meithrin eu hannibyniaeth.
Ynglŷn â’r rôl:
Cefnogi pobl gyda bywyd bob dydd, gall hyn gynnwys:
- Meithrin perthnasoedd ymddiriedus a chyfathrebu mewn ffyrdd sy'n gweithio i bob unigolyn.
- Cefnogi dewis, annibyniaeth, a helpu pobl i ddefnyddio cyfleusterau lleol.
- Dilyn cynlluniau cymorth unigol a strategaethau cefnogi ymddygiad yn gadarnhaol yn gyson.
- Adnabod beth y gallai ymddygiad unigolyn fod yn ei gyfleu ac ymateb yn bwyllog ac yn barchus.
- Cefnogi arferion a gweithgareddau dyddiol wrth annog pobl i wneud cymaint ag y gallant drostynt eu hunain.
- Gweithio'n agos gyda chydweithwyr, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill.
- Cadw cofnodion cywir a rhannu gwybodaeth berthnasol gyda'r tîm.
Gweithio yn unol â deddfwriaeth Cymru:
Mae ein cefnogaeth yn cael ei harwain gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Ein nod yw rhoi llais a rheolaeth pob unigolyn wrth wraidd eu cefnogaeth, hyrwyddo llesiant, mabwysiadu dull ataliol, a chynnwys pobl mewn penderfyniadau am eu bywydau.
Amdanoch chi:
Bydd gennych agwedd barchus, amyneddgar ac ymarferol. Rydych chi'n barod i ddysgu, gweithio fel rhan o dîm a chefnogi pobl heb gymryd yr awennau. Mae croeso i ymgeiswyr â phrofiad mewn gofal cymdeithasol ag awtistiaeth, cefnogi pobl ag anableddau dysgu neu gefnogi ymddygiad yn gadarnhaol, ond nid yw'n hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu; mae agwedd gadarnhaol ac ymrwymiad i gefnogaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn hanfodol.
Yr hyn yr ydym yn ei gynnig:
- Oriau achlysurol, gan gynnig hyblygrwydd i gefnogi anghenion y gwasanaeth.
- Y cyfle i wneud gwahaniaeth ystyrlon ym mywydau bob dydd pobl.
- Amgylchedd tîm cefnogol.
- Sesiynau ymgynefino a hyfforddiant perthnasol ar gyfer y rôl.
- Aelodaeth o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
- Cynlluniau aberthu cyflog, cynlluniau ceir a seiclo.
- Mynediad i amrywiaeth o ostyngiadau a chynigion i staff.
Mae’r rôl hon yn gofyn am hyblygrwydd, gan y bydd deiliad y swydd yn gweithio ar sail rota, gan gynnwysgyda’r nos, dros nos ac ar benwythnosau, er mwyn sicrhau’r safon uchaf o ofal a pharhad yn y gefnogaeth i’r bobl rydyn ni’n eu gwasanaethu. Os ydych chi'n barod i ddefnyddio'ch sgiliau mewn rôl lle mae eich gwaith wir yn cefnogi llesiant oedolion yn ein cymuned, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Os hoffech ffonio a thrafod unrhyw beth am ein gwasanaeth a'r rôl, cysylltwch â Charlotte ar: 07799483674 neu e-bost charlotte.barber@pembrokeshire.gov.uk
Buddion i Weithwyr
Mae ein buddion i weithwyr wedi'u cynllunio i helpu i fuddsoddi yn eich dyfodol ac maent yn ychwanegol at fyw a gweithio yn Sir Benfro, un o'r siroedd mwyaf prydferth a dymunol yn y DU.
Mae gwefan Ymweld â Sir Benfro https://www.visitpembrokeshire.com/cy-gb yn ffynhonnell wybodaeth ardderchog, ac mae'n arddangos yr amrywiaeth eang o weithgareddau, amwynderau ac anturiaethau sy'n aros amdanoch.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae’r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi’i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a’ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy’n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o’r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a’ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
- Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
- Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
- Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Mae'r Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth yn grŵp o fentrau sy'n seiliedig ar awdurdodau lleol sy'n cyflogi dros 75 o bobl ag anabledd neu gyflwr iechyd sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio, ewch i'r ddolen isod am ragor o wybodaeth: Rhaglen Cyflogaeth a Chymorth - Cyngor Sir Benfro
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy’n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â’r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu’r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p’un a ydynt yn gweithio i’r Cyngor neu’n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk.
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau’r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae’r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy’n bodloni manyleb y person ac sydd wedi’u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.