Rydyn ni'n recriwtio Gweithiwr Cymorth Gofal Plant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 37 oriau yr wythnos
Math o gontract: Parhaol, Llawn Amser
Lleoliad: Canolfan Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig Rhymni
Tîm: Gwasanaethau Plant
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £29,540 - £31,022 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Mae Gwasanaethau i Blant Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn chwilio am Weithiwr Cymorth Gofal Plant amser llawn, sydd â'r gwerthoedd, y cymhelliant a'r ymrwymiad cywir i weithio mewn amgylchedd heriol, ond gwerth chweil.
Ydych chi'n effeithiol wrth feithrin perthnasoedd gweithio cadarnhaol? Oes gennych chi sgiliau cyfathrebu da, yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn ogystal â sgiliau TG? Oes gennych chi angerdd ac ymrwymiad gwirioneddol i wella deilliannau ar gyfer plant, pobl ifanc a'u teuluoedd? Os felly, rydyn ni am glywed gennych chi. Hefyd, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau rheoli amser a threfnu da.
Mae Caerffili yn gweithio ar y cyd i hyrwyddo “yr hyn sy'n bwysig” gyda phlant a'u teuluoedd, i ddatblygu cynlluniau sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau.
Mae rôl y Gweithiwr Cymorth Gofal Plant yn cynnwys gweithio gyda phlant a'u rhieni/gofalwyr i gyflawni eu canlyniadau, cydbwyso canlyniadau â risg a diogelu plant yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'r rôl hefyd yn cynnwys cynorthwyo Gweithwyr Cymdeithasol yn eu gwaith, ymgymryd â gwaith uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc i'w helpu nhw i ddeall eu taith bywyd, cynnal asesiadau a goruchwylio amser teuluol rhwng plant sy'n derbyn gofal a'u rhieni geni.
Mae gan Wasanaethau i Blant Caerffili gysylltiadau cryf â Gwasanaeth Ymlyniad Gwent, ac mae Caerffili wedi buddsoddi yn y gwasanaeth therapiwtig, MyST, sy'n darparu cymorth dwys i'n plant sy'n derbyn gofal.
Byddwn ni'n rhoi'r canlynol i chi:
- Rhaglen sefydlu gynhwysfawr.
- Hyfforddiant i hybu eich datblygiad proffesiynol parhaus.
- Model asesu risg wedi'i sefydlu.
- Penderfyniadau amserol sy'n cael eu gwneud ar sail tystiolaeth.
- Goruchwyliaeth reolaidd, gwerthusiad blynyddol a chyfleoedd ar gyfer ymarfer myfyriol.
- Uwch Ymarferwyr a Rheolwyr Tîm cefnogol a phrofiadol.
- Arweinyddiaeth amlwg a chryf gan yr uwch dîm rheoli.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol:
- Cymhwyster Lefel 2 mewn Gofal neu gyfwerth ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru.
- Yn deall ac yn parchu cyfrinachedd a phwysigrwydd rheoli gwybodaeth bersonol a sensitif mewn modd proffesiynol.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynd i gyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Margaret Thomas ar 01685 846454 neu ebost thomam7@caerphilly.gov.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn derbyn ceisiadau wedi’u cyflwyno drwy wefan StudySmarter. Rhaid cyflwyno pob cais drwy wefan swyddogol y Cyngor.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.