Rydyn ni'n recriwtio Gweithiwr Cymorth Gofal Plant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 37 oriau yr wythnos
Math o gontract: Llawn Amser, Cyfnod Penodol Tan 31/03/2028
Lleoliad: Tredomen
Tîm: Cefnogi Newidiadau Teulu
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £29,540 - £31,022 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Mae Cefnogi Newidiadau Teulu yn darparu gwasanaeth ymyrraeth gynnar ac atal i deuluoedd sy'n byw yn ardal Caerffili. Mae Cefnogi Newidiadau Teulu yn cynnig cymorth uniongyrchol ac amlasiantaethol wedi'i gydlynu i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd nhw i'w helpu nhw pan fyddan nhw mewn angen. Mae Cefnogi Newidiadau Teulu yn gweithredu dull 'Tîm o Amgylch y Teulu' sy'n rhoi canlyniadau dymunol y teulu wrth wraidd y cymorth maen nhw'n ei gael (y cymorth iawn, ar yr adeg iawn, yn syth).
Fel gweithiwr cymorth, byddwch chi'n gweithio'n uniongyrchol gyda phlant a'u teuluoedd nhw pan fyddan nhw fwyaf agored i niwed ac angen cymorth. Bydd angen i chi fod yn gyfathrebwr effeithiol ac yn hyderus wrth weithio'n amlasiantaethol a chyd-gyfranogi, gan feithrin perthnasoedd ystyrlon â theuluoedd a pherthnasoedd proffesiynol adeiladol â phartneriaid yn y sector statudol a gwirfoddol.
Rydyn ni'n chwilio am rywun sydd ag angerdd ac ymrwymiad i gynorthwyo teuluoedd i wella eu canlyniadau dymunol nhw drwy gydweithio i hyrwyddo'r agenda 'beth sy'n bwysig' i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd nhw. Bydd gennych chi eisoes sgiliau trosglwyddadwy o weithio gyda theuluoedd pan fyddan nhw mewn angen neu mewn argyfwng, a bydd gennych chi brofiad o weithio gyda rhieni, gan eu cynorthwyo nhw i reoli'r heriau sy'n wynebu bywyd teuluol.
Mae gan Gwasanaethau i Blant Caerffili gysylltiadau cryf â mentrau Teuluoedd yn Gyntaf Llywodraeth Cymru ac mae Cefnogi Newidiadau Teulu yn rhan o'r fenter ymyrraeth gynnar ac atal sydd wedi'i chytuno.
A yw hyn yn swnio fel y swydd addas i chi? Os felly, hoffen ni glywed gennych chi a byddwn ni'n darparu'r canlynol:-
- Rhaglen sefydlu gynhwysfawr
- Hyfforddiant i hybu eich datblygiad proffesiynol parhaus
- Model asesu wedi'i sefydlu (Fframwaith Asesu Teuluoedd ar y Cyd)
- Gwneud penderfyniadau amserol sy'n seiliedig ar dystiolaeth
- Goruchwylio reolaidd, gwerthuso a chyfleoedd ar gyfer ymarfer myfyriol
- Tîm a Rheolwr cefnogol a phrofiadol
- Arweinyddiaeth amlwg a chryf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a'r Uwch Dimau Rheoli Teuluoedd yn Gyntaf
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu hyrwyddo egwyddorion a gwerthoedd craidd Cefnogi Newidiadau Teulu a gweithio fel rhan annatod o dîm sydd wedi ymrwymo i ddatblygu a gwella'r ddarpariaeth gwasanaeth a safonau arfer gorau.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol:
- Cymhwyster Lefel 2 mewn Gofal neu gyfwerth ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru.
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd nhw.
- Yn deall ac yn parchu cyfrinachedd a phwysigrwydd rheoli gwybodaeth bersonol a sensitif mewn modd proffesiynol.
- Profiad o weithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd nhw.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynd i gyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Nicola Barrett ar 07710388152 neu ebost: barren@caerphilly.gov.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn derbyn ceisiadau wedi’u cyflwyno drwy wefan StudySmarter. Rhaid cyflwyno pob cais drwy wefan swyddogol y Cyngor.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.