Am Y Gwasanaeth
Mae Gwasanaeth Dydd Caerdydd yn Wasanaeth Dydd arbenigol sy’n cynnig cymorth i oedolion ag anableddau dysgu sydd ag anghenion cymorth cymhleth. Caiff pobl eu cynorthwyo gan y gwasanaeth i fanteisio ar amrywiaeth eang o weithgareddau a chyfleoedd gwerthfawr yn y gymuned leol â’r nod o gyflawni’r canlyniadau a nodwyd.
Am Y Swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel aelod o dîm sefydlog sy’n cynorthwyo oedolion ag anableddau dysgu ac anghenion cymhleth i fanteisio ar gyfleoedd yn ystod y dydd. Mae’r rôl yn gofyn i ddeiliad y swydd weithio’n unigol ac fel aelod o dîm i ddilyn cynlluniau cymorth manwl a chyfrannu at adborth a chadw cofnodion cywir.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Rydym yn chwilio am weithiwr cymorth gwrywaidd sydd â phrofiad o weithio gyda phobl ag anableddau dysgu ac anghenion cymhleth.
Bod yn ddeiliad, neu’n gallu i hyfforddi a chyflawni’r lefel FfCCh perthnasol sydd ei angen ar gyfer y swydd. Hyblyg ac yn gallu gweithio mewn gwasanaeth deinamig sy’n newid yn gyflym.
Yn mwynhau bod yn weithgar, ac yn meddu ar amrywiaeth eang o ddiddordebau y gellir eu rhannu.
Ymrwymiad i gynnig cymorth cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar y person i unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth.
Yn credu bod gan bobl ag anableddau dysgu hawl i gyflawni eu llawn botensial a’r hawl i ymgysylltu’n gadarnhaol yn eu cymuned.
Dylech feddu ar drwydded yrru ddilys lawn a defnyddio car ar gyfer gwaith.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau gan y Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Mae’r contract yn gofyn i chi weithio 37 awr yr wythnos.
Achos anghenion y gwasanaeth mae'r swydd yma ar gyfer menywod yn unig.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â .
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau