Rydyn ni'n recriwtio Gweithiwr Cymorth i Deulueoedd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 37
Math o gontract: Parhaol
Lleoliad: Gall oriau gwaith gael eu rhannu rhwng y cartref a'r swyddfa yn dibynnu ar ofynion tasgau penodol.
Tîm: Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £29,540- £31,022 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Mae cyfle wedi codi yng Ngwasanaeth Troseddau Ieuenctid Blaenau Gwent a Chaerffili i Weithiwr Cymorth i’r Teulu. Bydd y swydd o fewn y Tîm Atal a bydd deiliad y swydd yn gweithio ar achosion ym mhob un o'r 3 thîm. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi'i leoli yn ein swyddfeydd ym Mharc Busnes Maes-y-coed, Pontllan-fraith, ac yn gweithio ledled y ddwy fwrdeistref sirol. Mae'n hanfodol fod ymgeiswyr yn berchnogion car/gyrwyr.
Prif dasg y swydd yw cyflwyno rhaglenni cymorth pwrpasol i deuluoedd i weddu orau i anghenion unigol. Gallai hyn gynnwys amrywiaeth o sesiynau rhianta un-i-un a gwaith grŵp. Bydd ffocws y gwaith yn bennaf gyda rhieni/gofalwyr. Mae'n hanfodol bod â sgiliau TG da i gynnal cofnodion electronig cywir ac amserol, trwy system gronfa ddata y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio’n agos mewn partneriaeth â gwasanaethau'r sectorau statudol a gwirfoddol lleol. Bydd deiliad y swydd hefyd yn gyfrifol am ddatblygu, cynnal a gwella cyfranogiad gan deuluoedd a phlant wrth gynllunio gwasanaethau a monitro canlyniadau.
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant ar gyfer y swydd barhaol hon, er mwyn cynorthwyo nod cyffredinol y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid o ran lleihau troseddu gan blant. Felly, bydd angen i chi ddangos llwyddiant blaenorol o ran ennyn diddordeb rhieni a chael effaith gadarnhaol drwy'r gwaith y byddwch chi'n ei wneud fel rhan o'n Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid amlasiantaethol. Wrth gyflawni'r nodau hyn, byddwch chi'n gweithio'n agos gyda theuluoedd a/neu ofalwyr er mwyn mynd i'r afael â'r ffactorau sy'n arwain at droseddu.
Bydd gofyn i chi gyfrannu at gofnodion electronig amserol a chywir yn unol â safonau cenedlaethol y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Felly, mae sgiliau TG yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, yn ogystal â sgiliau cyfathrebu gwych, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
A yw'r swydd hon yn swnio'n addas i chi? Os felly, byddwn ni'n rhoi'r canlynol i chi:
- Rhaglen sefydlu gynhwysfawr.
- Hyfforddiant i hybu eich datblygiad proffesiynol parhaus.
- Model asesu risg wedi'i sefydlu.
- Penderfyniadau amserol sy'n cael eu gwneud ar sail tystiolaeth.
- Goruchwyliaeth reolaidd, gwerthusiad blynyddol a chyfleoedd ar gyfer ymarfer myfyriol.
- Uwch Ymarferwyr a Rheolwyr Tîm cefnogol a phrofiadol.
- Arweinyddiaeth amlwg a chryf gan Dîm Rheoli'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol:
- Cymhwyster NVQ Lefel 2 neu gymhwyster cyfatebol.
- Gwybodaeth am arfer a theori cyfredol sy'n sail i weithio gyda phobl ifanc sy'n troseddu
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Kate Macgregor ar 01495 235623 neu ebost MACGRK@CAERPHILLY.GOV.UK
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn derbyn ceisiadau wedi’u cyflwyno drwy wefan StudySmarter. Rhaid cyflwyno pob cais drwy wefan swyddogol y Cyngor.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.