Am Y Gwasanaeth
Mae Cyngor Caerdydd yn recriwtio ar gyfer rôl gyffrous fel rhan o'n Hyb Ymyriadau.
Y manteision a gynigir
Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig.
- Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 28 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 33 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.
- Mae ein diwylliant gweithio yn hyblyg, gyda chynllun fflecsi yn eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi.
- Gweithio hybrid – yn eich cefnogi i gyflawni eich rôl yn hyblyg boed ar ymweliadau, o swyddfa neu eich cartref.
- Mynediad i Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg sy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg, dibynadwy sy’n rhoi tawelwch meddwl.
Ar ben hynny, Caerdydd yw’r ddinas gyntaf yn y DU i ddod yn Ddinas sy’n Dda i Blant UNICEF, sy'n rhoi hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd ein polisïau a'n strategaethau.
Rhieni sy’n cael y dylanwad mwyaf ar blant a’u dyfodol. Yn ein barn ni, mae plant yn cyflawni’r canlyniadau gorau pan gânt eu cynorthwyo i dyfu a llwyddo o fewn eu teuluoedd eu hunain. Y gred hon arweiniodd at ddefnyddio’r dull ‘Ffocws ar y Teulu’, sy’n ystyried y teulu cyfan ac yn cydlynu cymorth ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, wedi’i deilwra i anghenion a chryfderau pob teulu.
Os oes diddordeb gennych i gael bod yn rhan o ymdrech Caerdydd i fod yn un o'r dinasoedd mwyaf bywiog a llwyddiannus yn y Deyrnas Gyfunol sy'n rhoi plant yn gyntaf, gyda'r uchelgais o arwain y ffordd o ran datblygu ymarfer yng Nghymru, byddem yn falch iawn o glywed gennych.
Am Y Swydd
Rydyn ni'n chwilio am Weithredwr Cymorth Teulu llawn amser (37 awr) i ymuno â'n Canolfan Ymyriadau.
Mae'r Hyb Ymyriadau yn hanfodol i helpu teuluoedd i gael y cymorth iawn ar yr adeg iawn. Dyna pam rydym yn datblygu ein gwasanaethau atal ac ymyrryd yn gynnar i sicrhau y gall teuluoedd ddefnyddio ystod o wasanaethau a chymorth ar wahanol lefelau i osgoi’r angen am ymyrraeth gwaith cymdeithasol statudol.
Dylai fod gennych brofiad o weithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd, a dylech fod yn ymroddedig i weithio gyda theuluoedd i wella eu gallu i fagu plant a gwella cyfleoedd bywyd plant a phobl ifanc.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Bydd yn rhaid i chi ddarparu gwasanaethau o safon sy’n galluogi rhieni â phlant y nodwyd eu bod yn anghenus i wella eu gallu a gwella a hybu iechyd a datblygiad eu plant. Dylech fod yn llawn cymhelliant ac yn drefnus, gyda’r gallu i weithio mewn tîm ac yn annibynnol.
Dylech allu gweithio’n hyblyg.
Bydd angen trwydded yrru ddilys lawn a’r defnydd unigol o gar arnoch.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a’r fanyleb person wrth ymgeisio am y swydd uchod.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr fod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.
Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau