37 awr yr wythnos
2 x swydd ar gael
Cyfnod Penodol tan 31 Mawrth 2027
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gyda phartneriaid eraill, wedi datblygu fframwaith ar gyfer dull mwy integredig o ddarparu gwasanaethau i blant, pobl ifanc a theuluoedd.
Gweithio fel rhan o Dîm Ardal Cymorth Cynnar i ddyfeisio, gweithredu a chynorthwyo amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael i ddiwallu anghenion a nodwyd plant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol cysylltu â darparwyr gwasanaethau eraill yn y Canolfannau Ardal Cymorth Cynnar yn Ardaloedd Gogledd, Dwyrain a Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr, a chyda'r Tîm Canolog. Bydd y rôl yn cynnwys defnyddio systemau gweithredol i nodi anghenion drwy Fodiwl Arwyddion Llesiant, Tîm o Amgylch y Teulu, olrhain a chynnydd i ddarparu dull gweithio integredig er mwyn gwella canlyniadau i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Bydd Gweithwyr Cymorth Teulu yn gweithredu fel gweithwyr allweddol ac yn darparu cymorth i deuluoedd ag anghenion heb eu diwallu i atal neu leihau'r risg o anghenion cynyddol.
I gael trafodaeth anffurfiol am y rolau, ffoniwch Amy Gurdin, Rheolwr y Gwasanaeth Cymorth Cynnar, ar 01656 642651
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 16 Medi 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 18 Medi 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 28 Medi 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person