*** Mae'r swydd wag hon ond ar gael i weithwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, gan gynnwys staff asiantaeth sy'n gweithio yn y Cyngor ar hyn o bryd. ***
Rydyn ni'n recriwtio Gweithiwr Cymorth i Ofalwyr yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 37 oriau yr wythnos
Math o gontract: Llawn Amser, Parhaol
Lleoliad: Gall oriau gwaith gael eu rhannu rhwng y cartref a'r swyddfa yn dibynnu ar ofynion tasgau penodol.
Tîm: Anabledd Corfforol a Nam ar y Synhwyrau
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £29,540 - £31,022 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Fel Gweithiwr Cymorth i Ofalwyr, byddwch chi’n darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr di-dâl, yn eu helpu nhw i gynnal rôl ofalu a sicrhau lles.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn frwd dros gynorthwyo gofalwyr a gwella eu canlyniadau, rheoli llwyth achosion, cynnal asesiadau cymesur, a darparu ymyrraeth gynnar i atal atgyfeirio at wasanaethau statudol.
Gan weithio yn y gymuned, byddwch chi’n meithrin perthnasoedd cryf â gofalwyr, teuluoedd ac asiantaethau partner, yn hyrwyddo ymwybyddiaeth ac adnabod gofalwyr, ac yn datblygu rhwydweithiau cymorth lleol. Mae'r rôl yn canolbwyntio ar leihau arwahanrwydd, hyrwyddo annibyniaeth, a galluogi gofalwyr i barhau yn eu rôl yn ddiogel ac yn effeithiol.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol:
- Cymhwyster Lefel 3 perthnasol
- Dealltwriaeth o egwyddorion ac arferion deddfwriaeth berthnasol.
- Profiad o weithio gyda theuluoedd mewn lleoliad gofal cymdeithasol.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Geraldine Powell ar 07713 092795 or neu ebost: powelg4@caerphilly.gov.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn derbyn ceisiadau wedi’u cyflwyno drwy wefan StudySmarter. Rhaid cyflwyno pob cais drwy wefan swyddogol y Cyngor.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
YMGEISWYR MEWNOL YN UNIG