Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Mae'r gwasanaeth mewngofnodi cyflogwyr nawr ar gael. Os ydych yn profi unrhyw broblemau, cysylltwch â ni.

Gweithiwr Cymorth Ieuenctid Perthnasau Iach

Dyddiad cau 19/10/2026

Cyflogwr

Cyngor Sir Ynys Mon / Isle of Anglesey County Council

Lleoliad

  • Ynys Môn
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Dros dro
Cyflog
£29,071 - £32,046 per year y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol

Disgrifiad o'r swydd

Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.

Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn

Pwrpas cyffredinol y swydd

Mae hon yn swydd tymor penodol newydd sy’n cael ei darparu drwy Brosiect Partneriaeth Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd ac Ynys Môn. Cafodd y swydd ei chreu i gryfhau’r gwaith o atal ac adnabod ymddygiad rhywiol niweidiol, perthnasau gwael, niwed ar-lein a chamfanteisio ar blant sy’n effeithio ar bobl ifanc ledled Ynys Môn yn 
brydlon. Bydd y deilydd swydd yn gweithio ar draws pump ysgol uwchradd yr ynys, gan ganolbwyntio ar bobl ifanc sy’n byw mewn cymunedau wedi’u targedu, lle mae gwybodaeth a gweithgareddau partneriaeth lleol wedi adnabod yr angen am ymyrraeth gynnar a gwaith ataliol. Bydd y deilydd swydd yn gweithio’n agos gyda’r Cydlynydd Perthnasau Iach a’r Gwasanaeth Ieuenctid i adnabod yr arwyddion cynnar o ymddygiad rhywiol niweidiol, ymddygiad ar-lein sy’n peri pryder, gorfodaeth, 
camfanteisio, cam-drin rhwng cyfoedion, a bregusrwydd.  Bydd y deilydd swydd yn gweithio’n agos gydag ysgolion, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaethau 

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.