Mae cyfle wedi codi i weithwyr Cymorth Llesiant ymuno â Thîm Cyfleoedd Dydd Tŷ Nant Ddu, yn llawn amser.
Rydym yn chwilio am bobl uchel eu cymhelliant a brwdfrydig sy'n ystyried y cam nesaf yn eu gyrfa. O ran un o'r swyddi, rydym yn chwilio am rywun sydd â rhywfaint o brofiad o arddio neu waith coed, neu'n mwynhau’r gweithgareddau hyn, er mwyn cynnig cefnogaeth yn ein prosiectau allanol.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn awyddus i weithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar 'yr hyn sy'n bwysig' i'r bobl rydych chi'n gweithio iddynt. Byddant yn gallu ffurfio a datblygu perthnasoedd ag unigolion a gofalwyr i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi i gyflawni’r canlyniadau sy'n bwysig iddyn nhw. Byddwch yn gweithio yng Nghanolfan Adnoddau Tŷ Nant Ddu ym Mhont-y-pŵl ond bydd disgwyl i chi weithio mewn prosiectau allanol a chynnig allgymorth yn y gymuned o amgylch y Fwrdeistref.
Crynodeb o'r Swydd
- Annog y bobl rydych chi'n gweithio iddynt i fyw cystal ag y gallant, bod mor annibynnol â phosibl, a bod yn rhan o'u cymuned.
- Galluogi'r bobl rydych chi'n gweithio iddynt i gyflawni eu canlyniadau trwy gymryd cyfrifoldeb ac arwain ar agweddau penodol ar eu cynllun sy'n cael ei yrru gan ganlyniadau.
- Hyrwyddo dinasyddiaeth weithredol a chynorthwyo'r bobl rydych chi'n gweithio iddynt, eu teulu neu eu cylch cymorth i gymryd yr awenau wrth wneud penderfyniadau.
- Gweithio mewn ffordd sy’n canolbwyntio o ddifri ar yr unigolyn, gan ddilyn cyfarwyddyd y person rydych chi'n gweithio iddo, eu teulu neu aelodau eu cylch.
- Galluogi’r hyn y mae’r unigolyn yn gallu ei wneud, datblygu perthnasoedd a chyfeillgarwch a chylchoedd cefnogaeth ehangach.
Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon, cysylltwch â Jenny Stedman 01633 648746 neu anfonwch e-bost at jenny.stedman@torfaen.gov.uk neu Lynne Griffiths ar 01495 647907 neu lyn.griffiths@torfaen.gov.uk
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'Hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd llwyddiannus, a fydd yn cynnwys gwiriad Manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydyn ni'n gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau y mae gweithlu amrywiol yn eu cyflwyno ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli.
Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol. Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu’n Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Rydym yn Arweinydd sy'n Hyderus o ran Anabledd cofrestredig ac rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl ac i ddatblygu eu gyrfa. Mae ein cynllun Gwarant o Gyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, cyn belled â'u bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes cyflwr iechyd arnoch, os ydych chi'n niwrowahanol, neu'n defnyddio iaith arwyddion Prydain, ac angen trafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn ni weithio gyda chi i drefnu addasiadau ond mae'n rhaid i ni gael gwybod beth yw eich gofynion cyn i chi gyflwyno'ch cais, neu cyn eich prawf neu gyfweliad.