Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gofal Cartref
Rôl
Gweithiwr Cymorth Gofal Cartref
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Adnoddau Anableddau
Mae'r Tîm Plant ag Anableddau yn cefnogi plant ag anableddau yn eu cartrefi eu hunain neu yn y gymuned.
Byddwch yn cynorthwyo plant â gweithio tuag at sicrhau canlyniadau. Gall hyn gynnwys darganfod gweithgareddau iddynt eu mynychu o fewn eu cymunedau lleol, deall ymddygiadau herio a gweithio tuag at strategaethau cytunedig, dechrau datblygu sgiliau byw'n annibynnol ar gyfer y dyfodol. Cynllunio a darparu gweithgareddau creadigol drwy chwarae a hybu sgiliau i ryngweithio ag eraill.
Mae dyletswyddau eraill yn cynnwys cynorthwyo defnyddwyr gwasanaeth na allant fod yn gwbl gyfrifol am eu hanghenion personol eu hunain. Gallai hyn gynnwys codi a chario.
Mae parodrwydd i weithio ar eich menter eich hun, cymryd cyfrifoldeb a rheoli unrhyw heriau mewn modd priodol yn hanfodol, yn ogystal ag ymwybyddiaeth o'r materion sy'n effeithio ar bobl ag anableddau.
Oherwydd natur darpariaeth y gwasanaeth bydd gofyn gweithio oriau anghymdeithasol, a thelir yn ychwanegol am hyn.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Sheila Chapman, Rheolwr Tim
( sheila.chapman@conwy.gov.uk / 01492574245)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i'w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr