Neidio i'r prif gynnwys

Gweithiwr Cymorth Tîm Ailalluogi

Dyddiad cau 08/04/2026

Cyflogwr

Cyngor Sir Benfro / Pembrokeshire County Council

Lleoliad

  • Sir Benfro
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Llawn Amser
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gofal Cartref
Rôl
Gweithiwr Cymorth Gofal Cartref

Disgrifiad o'r swydd

Mae'r Tîm Ailalluogi yn recriwtio. Byddem wrth ein boddau yn clywed gennych pe hoffech gael gyrfa yn cynorthwyo unigolion i adennill eu sgiliau a'u hannibyniaeth yn dilyn salwch neu anaf acíwt. Bydd hyn yn cynnwys gweithgareddau bywyd bob dydd fel gofal personol, symudedd, paratoi prydau bwyd, a chymryd meddyginiaeth. Arweinir y gwasanaeth gan therapyddion galwedigaethol, a byddech yn darparu cymorth ac ymyriadau sy'n canolbwyntio ar y cleient ac ar eu nodau yn ôl y cyfarwyddyd a roddir gan y therapydd galwedigaethol. Byddwn hefyd yn creu pecynnau gofal o'r lefelau cywir i gynorthwyo unigolion i gyflawni eu llawn potensial a nodi anghenion gofal a chymorth hirdymor.

Rydym yn gwasanaethu Sir Benfro gyfan, ac mae gennym rota dreigl bythefnos. Y patrwm shifft yw 7.30am-1pm, a 5pm-9.30pm. Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Sadwrn a dydd Sul yn ystod wythnos 1; a dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener yn wythnos 2. Byddech yn cael tâl ychwanegol am weithio dros y penwythnos a gyda'r nos, a byddech yn gweithio bob yn ail benwythnos. Rhoddir gwisg, ffôn gwaith, lwfans teithio, a hyfforddiant parhaus i chi. Mae'r swydd yn amrywiol ac yn ddiddorol, ac efallai y bydd angen i chi gyflenwi ar gyfer gwasanaethau eraill hefyd, megis ein gwasanaeth gofal cartref, gan ehangu eich sgiliau a gwybodaeth ymhellach.

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.