Lleoliad gwaith: Bron Y Nant
Y cwbl sydd ei angen arnoch i gychwyn ar eich gyrfa mewn gwaith cymorth yw eich rhinweddau naturiol.
Ydych chi eisiau swydd sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau plant a phobl ifanc?
Rydym ni’n frwd dros weithio gyda’n gilydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol a gwella ansawdd bywydau plant a phobl ifanc, a’u galluogi i ‘fyw’r bywyd gorau posib’ drwy ddarparu amgylchedd cefnogol a chartrefol iddynt sy’n canolbwyntio ar eu hanghenion unigol. Byddwn yn cyflawni hyn trwy hyrwyddo a pharchu ‘Cymorth Gweithredol’, ‘Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol’, ‘Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn’ a ‘Lleihau Arferion Cyfyngol’. Bydd canolbwyntio ar yr unigolyn wrth gynllunio’r holl gymorth a datblygu strategaethau yn eu galluogi i ddatblygu sgiliau ym mhob agwedd ar eu bywyd bob dydd, gan feithrin perthnasoedd cryf gyda’r rhai o’u cwmpas, datblygu sgiliau byw’n annibynnol a dod yn aelodau gweithgar o’u cymunedau lleol trwy ddarparu gofal o ansawdd uchel.
Rydym yn chwilio am bobl sy’n rhannu’r uchelgais hon a’n ffordd ni o weithio – sef bod yn feiddgar, yn greadigol ac yn angerddol ac onest ym mhopeth a wnawn.
Nid oes angen unrhyw gymwysterau arnoch i ddechrau arni, dim ond y gwerthoedd personol priodol, ac fe gewch chi gefnogaeth lawn yn y swydd. Mae llawer o gyfleoedd i ddatblygu gyrfa yn ein gwasanaeth, gan fod posib i chi ennill cymwysterau, cael hyfforddiant ychwanegol neu ymgymryd â swyddogaethau ar gyfer datblygiad personol.
Mae meithrin perthnasoedd cadarnhaol ac adeiladol gyda’r unigolion rydych chi’n eu cefnogi yn rhan allweddol o fod yn weithiwr cymorth gwerthfawr. Felly, mae’n hanfodol bod gennych chi natur gyfeillgar a chefnogol gydag agwedd gadarnhaol tuag at fywyd, a’r peth sydd bwysicaf i ni yw eich bod yn frwd dros helpu pobl i gyrraedd eu llawn botensial!
Beth mae’r swydd yn ei olygu?
Yn bennaf, mae’r swydd yn golygu gweithio yn y Gwasanaeth Dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener, a bydd gofyn i chi weithio gyda’r nos ac ar benwythnosau. Fe wnawn ni eich helpu chi i sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd y cartref a’r gwaith.
Byddwch yn helpu pobl i gael llais ac i ddatblygu sgiliau tuag at eu dyfodol mwy hirdymor.
Byddwch yn gallu cynllunio a chynnal gweithgareddau llawn dychymyg gyda’r unigolyn, a fydd hefyd yn eu helpu i ddatblygu sgiliau.
Byddwch yn deall bod rhai pobl yn mynegi eu teimladau trwy ddefnyddio ymddygiad sy’n achosi pryder a byddwch yn credu yn eich gallu i ddysgu’r bobl hynny sut i gyfathrebu mewn ffordd wahanol; mae gwaith tîm yn allweddol yn hyn o beth.
Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm mewn lleoliad penodol, yn y gymuned leol neu yng nghartrefi’r teuluoedd. Byddwch yn ysgogi ac yn helpu’r unigolion i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau a diddordebau arbennig sy’n cefnogi eu hiechyd a’u lles, megis trampolinio, ymweld â’r traeth / parc / coetir, cerdded, nofio, pobi / coginio, chwarae gemau, canu a dawnsio, crefftau, ac ymwybyddiaeth ofalgar, ymysg eraill.
Gall rhai o’r dyletswyddau eraill gynnwys helpu pobl gyda’u hanghenion gofal personol eu hunain, a gallai hyn gynnwys codi a chario.
Fel gweithiwr cymorth, bydd angen i chi ddangos y gallwch chi fod yn greadigol ac yn agored eich meddwl, gan eich bod yn helpu pobl i gyflawni eu nodau yn ogystal ag yn helpu’r tîm i ddarparu profiad diogel, gofalgar ac addysgol ar gyfer pobl ag anableddau, er mwyn sicrhau eu bod yn mwynhau’r ansawdd bywyd gorau posib.
Rhaid cael gwytnwch yn ein sector gofal. Mae pob un ohonom ni’n cael dyddiau da a dyddiau gwael, ac mae’n rhaid i chi allu dangos y gallwch chi fod yn bwyllog ac yn gefnogol er mwyn gweithio gyda ni.
Bydd cyfle i chi fynychu hyfforddiant arbenigol a fydd yn rhoi’r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i roi’r cyfleoedd gorau i’r unigolion fyw bywyd llawn.
Bydd gofyn i chi gwblhau Gwiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac mae’r penodiad yn amodol ar 2 eirda boddhaol.
Mae’r tîm yn darparu gwasanaethau 365 diwrnod y flwyddyn yn ystod y dydd, gyda’r nos ac ar benwythnosau. Rydym felly’n chwilio am unigolion sydd ag agwedd hyblyg at yr oriau gwaith er mwyn bodloni gofynion y gwasanaeth.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Emma Edwards, Rheolwr Tîm
( Emma.edwards1@conwy.gov.uk / 07849631358 / 01492 575002 )
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.