37 awr yr wythnos
Tymor Penodol – 2 blynedd
Mae ein Tîm Anableddau Plant a Phontio yn dîm asesu, rheoli achosion rheng flaen sy'n arbenigo mewn darparu cymorth a gwasanaethau i blant, pobl ifanc ac oedolion anabl ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hyn yn cynnwys plant â phrofiad o fod mewn gofal a'r bobl ifanc anabl hynny sy'n pontio i fyd oedolion.
Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â'n tîm Anableddau Plant a Phontio prysur, llawn cymhelliant a chefnogol mewn rôl gweithiwr cymorth ymddygiad. Bydd gennych brofiad o weithio gydag anghenion ymddygiadol plant a/neu bobl ifanc ag anableddau, ynghyd â gwybodaeth eang am anghenion cymhleth plant/pobl ifanc/oedolion anabl a'u teuluoedd a dealltwriaeth o hyn.
Mae'r tîm yn ymateb i blant a theuluoedd sydd ag anghenion cymhleth neu lle ceir pryderon cynnar am amddiffyn plant ac mae'n darparu cymorth ac ymyriad o ansawdd uchel i'r rhai ag anghenion tymor hwy. Eich rôl fydd darparu ymateb gwaith achos sy'n canolbwyntio ar y teulu cyfan i blant a phobl ifanc ag anableddau lle mae heriau ymddygiad yn effeithio ar weithrediad a sefydlogrwydd y teulu.
Bydd angen gwneud gwaith uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc, a theuluoedd, meddu ar lwyth achosion a chyflwyno cymorth ymddygiad seiliedig ar dystiolaeth ar sail un i un a theuluol er mwyn gwella canlyniadau a chynnal plant o fewn eu rhwydweithiau teuluol.
Byddwch hefyd yn gweithio ochr yn ochr â Gweithwyr Cymdeithasol ar achosion sy'n gweithredu cynlluniau gofal a chymorth a darparu ymateb amserol i deuluoedd a allai fod mewn argyfwng, a fydd yn cynnwys gweithio hyblyg.
Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad o weithio mewn rôl debyg mewn lleoliad gwasanaethau plant neu oedolion ac awydd i arbenigo mewn gweithio gyda phlant/pobl ifanc/oedolion anabl.
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd hon a hoffech gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Bev Whiteley, Rheolwr Tîm, neu Lisa Jefferies, Dirprwy Reolwr Tîm, Tîm Anableddau Plant a Phontio ar (01656) 815442.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 19 Awst 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 24 Awst 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 14 Medi 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person