Bydd disgwyl i chi feddu ar sgiliau cyfathrebu da a gallu i fod yn drefnus oherwydd bydd sefydlu grwpiau cefnogi a sesiynau gweithgaredd yn rhan o'r rôl hon. Yn ogystal â hyn, bydd rhywfaint o waith 1:1 gyda phlant ac oedolion, i geisio datblygu eu sgiliau personol ac annibynnol megis coginio, glanhau neu ddatblygu eu sgiliau teithio annibynnol.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar ddealltwriaeth sylfaenol o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a phrofiad o weithio gyda phlant ac oedolion ag anableddau, ac hefyd cod ymarfer awtistiaeth.
Mae'n gyfle cyffrous i'r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu at weithrediad Model Gwasanaeth Integredig Gydol Oed Porth Cynnal.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn trawsnewid y ffordd y bydd unigolion a theuluoedd yn derbyn cymorth cynnar, gofal a chefnogaeth pan fydd angen y rhain arnynt. Rydym yn datblygu gwasanaethau gydol oed a lles, ffyrdd newydd o weithio ac ystod o fentrau cyffrous a fydd o gymorth i gael cadernid cymunedol ac unigol. Mae hyn hefyd yn golygu ein bod am feithrin gweithlu medrus a hyblyg a all wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl.
Credwn fod cydbwysedd bywyd a gwaith yn holl bwysig. I'ch cefnogi i gyflawni hyn, bydd gennych fynediad at y buddion dewisol canlynol:
- Gweithio Hybrid: Yn amodol ar fodloni rhai amodau, gallwch ddewis gweithio o'ch cartref neu mewn swyddfa.
- Amser-fflecsi: Gellir gweithio oriau o fewn lled band diffiniedig, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol ar anghenion gwasanaeth.
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonI gael mwy o fanylion, cysylltwch ag Emma Clarke, Rheolwr Corfforaethol (Tîm anabledd) neu Claire James, Rheolwr Tîm (Tîm Anabledd) ar07773288720.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch.Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Cynnal - Gwasanaethau Arbenigol
Rydym yn darparu ystod o wasanaethau cymorth arbenigol gydol oes i bobl Ceredigion. Ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt er mwyn iddynt allu byw bywydau diogel, iach a gwydn. Ein prif swyddogaethau yw:
Canolfan Rheidol Mae ein swyddfa yn Aberystwyth, Canolfan Rheidol, yn adeilad sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r swyddfa, gyda'i dyluniad cynllun agored, yn darparu lle rhagorol ar gyfer gweithio ar y cyd.
Darllen mwy Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy