Neidio i'r prif gynnwys

Gweithiwr Gofal a Chymorth - Llety Diogel i Blant

Dyddiad cau 16/10/2024

Cyflogwr

Ceredigion County Council / Cyngor Sir Ceredigion

Lleoliad

  • Ceredigion
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Rhan Amser
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Cartref Gofal
Rôl
Gweithiwr Cymorth Gofal Cartref

Disgrifiad o'r swydd

Ynglŷn â'r rôl
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer rôl Lefel 3 - Gofal a Chymorth o fewn ein darpariaeth Llety Diogel i Blant yng Ngheredigion. Bydd y rolau hyn yn gweithio ar rota dreigl ar gyfer sifftiau dydd a nos gan gefnogi anghenion y gwasanaeth. Bydd y rolau hyn yn cefnogi'r Rheolwr Cofrestredig a'r Rheolwr Cynorthwyol i ddarparu gofal a chymorth mewn sefydliadau cofrestredig.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn frwd dros hybu dull gweithredu o safbwynt arferion sy'n canolbwyntio ar y plentyn, bydd ganddo hanes cadarn o ran ei yrfa mewn gofal preswyl plant neu ddarpariaeth gofal a chymorth tebyg. Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad, byddwn yn cynnig ystod o fuddion fel gweithiwr i chi gan gynnwys lwfans cystadleuol o ran gwyliau blynyddol, cymorth cynhwysfawr i weithwyr o ran iechyd a lles, a chynllun hael o ran cyfraniadau pensiwn. Mae mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion i weithwyr ar gael yma.

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.