Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion

Rhwng 7 Hydref a 25 Hydref, mae Gofalwn Cymru yn taflu goleuni ar rôl y Gweithiwr Cymdeithasol.

Mwy yma

Gweithiwr Gofal a Chymorth x 5

Dyddiad cau 06/11/2024

Cyflogwr

Ceredigion County Council / Cyngor Sir Ceredigion

Lleoliad

  • Ceredigion
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gofal Cartref
Rôl
Gweithiwr Cymorth Gofal Cartref

Disgrifiad o'r swydd

Ynglŷn â'r rôl
Ydych chi'n angerddol am hawl pobl i gadw eu hannibyniaeth? A oes gennych y sgiliau i ddarparu gofal a chymorth ymarferol i unigolion yn eu cartref gyda gweithgareddau fel hylendid personol, paratoi prydau bwyd, anghenion diwylliannol a domestig? A oes gennych chi gar gydag yswiriant defnydd busnes? Yna hoffem glywed gennych!

Ar hyn o bryd rydym am recriwtio nifer o Weithwyr Gofal a Chymorth i gefnogi cleientiaid ar draws de Ceredigion (Llandysul/Aberteifi). Er y byddai profiad gofal blaenorol o fantais, nid yw'n hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu. Yr hyn sy'n bwysig i ni yw mai chi yw'r math o berson a fydd yn sicrhau cysur, urddas a hunan-barch ein cleientiaid.

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.