Oriau gwaith: 25-30 Oriau
/Wrth Gefn
Math o gontract: Parhaol/Achlysurol
Lleoliad: Tŷ Estynedig Brodawel
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Cynllun Cynnal Byw ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £16,414- £21,064 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae Cynllun Byw â Chymorth Caerffili yn chwilio am Weithwyr Gofal Cymdeithasol Benywaidd i gynorthwyo oedolion ag anableddau dysgu. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i unigolion ac yn anelu'n barhaus at wella profiad y rhai sy'n cael gofal a chymorth.
Bydd y rolau allweddol hyn yn mynnu bod yr ymgeiswyr llwyddiannus yn meithrin perthynas waith gadarnhaol ag aelodau eraill o'r tîm ac yn cyfleu syniadau ag angerdd gwirioneddol, ymrwymiad a hyblygrwydd a fydd yn gwella perfformiad y tîm yn ein Gwasanaeth Byw â Chymorth.
Bydd angen i'r ymgeiswyr llwyddiannus fod â phrofiad o weithio mewn lleoliad gofal a gallu mabwysiadu agwedd frwdfrydig, ymroddedig a hyblyg at ddyletswyddau. Mae hyn yn cynnwys gweithio ar y penwythnos, preswylio ac ar wyliau banc yn rheolaidd. Hefyd, mae profiad gyda chleientiaid sydd angen cefnogaeth a chymorth gyda phob agwedd ar fywyd pob dydd, gofal personol a sgiliau cymdeithasol yn hanfodol.
Rhaid i'r ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar gymhwyster Lefel 2 neu 3 priodol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu gyfwerth, neu ymrwymo i'w gyflawni o fewn blwyddyn i'r penodiad (yn amodol ar argaeledd hyfforddiant).
Os ydych chi'n credu bod gennych chi rinweddau a fydd yn ysbrydoli eraill i gyflawni, llawer iawn o frwdfrydedd, ac rydych chi yn wirioneddol eisiau ‘gwneud gwahaniaeth’ i fywydau eraill yn ein cymuned leol, byddem ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol: - Dealltwriaeth o'r egwyddorion sy'n sail i amgylchedd gofal o ansawdd, h.y. preifatrwydd, urddas, parch, dewis, annibyniaeth a hawliau.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion presenoldeb cymunedol gwerthfawr.
- Profiad gyda phobl sydd angen cymorth gyda phob agwedd ar ofal personol, bywyd bob dydd a sgiliau cymdeithasol.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Linda Birt ar 07808251575 neu ebost: Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2023 yn nodi'r gofyniad i'r holl weithwyr gofal plant preswyl, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis yn dilyn eich dyddiad dechrau yn y swydd.
Mae'n ofynnol bod deiliad llwyddiannus y swyddi yn fenywaidd. Mae hon yn nodwedd warchodedig o dan ofyniad galwedigaethol y swydd yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.