Oriau gwaith: 25/30 Oriau
Math o gontract: Parhaol/ Rhan Amswer a swyddi achlysurol
Lleoliad: Browdawel Tŷ
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Llety'r Gwasanaethau Cymdeithasol ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £17,286 - £22,110 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae Cynllun Byw â Chymorth Caerffili yn darparu gofal a chymorth hyblyg i oedolion ag anableddau dysgu. Rydyn ni am recriwtio Gweithwyr Gofal Cymdeithasol Benywaidd sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Ai chi yw’r person hwnnw?
Bydd swyddogaethau’n cynnwys darparu cymorth ac arweiniad a chyflwyno pob agwedd ar ofal personol yn ôl yr angen gan denantiaid/unigolion/preswylwyr, gan sicrhau bod preifatrwydd, urddas, parch, dewisiadau, annibyniaeth a hunan-barch yr unigolion yn cael eu cynnal bob amser. Byddwch chi hefyd yn darparu cymorth gyda thasgau byw bob dydd, cael mynediad i'r gymuned a gwyliau, gan helpu pobl i fyw eu bywyd gorau.
Bydd deiliad y swydd yn helpu rheoli’r risg i unigolion trwy gadw at Asesiadau Risg a Chynlluniau Rheoli ar y cyd â pholisïau a gweithdrefnau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Gofyniad i gyflawni cymhwyster Lefel 2 neu 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol o fewn amserlen wedi'i chytuno.
- Dealltwriaeth o'r egwyddorion sydd wrth wraidd amgylchedd gofal o safon, h.y. preifatrwydd, urddas, parch, dewis, annibyniaeth a hawliau.
- Profiad gyda phobl sydd angen cymorth gyda phob agwedd ar ofal personol, bywyd pob dydd a sgiliau cymdeithasol.
- Y gallu i weithio sifftiau ar sail rota a gweithio'n hyblyg, gan gynnwys penwythnosau, gwyliau banc a dyletswyddau preswyl.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Linda Birt ar 07808251575 neu ebost: Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
[email am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2023 yn nodi'r gofyniad i'r holl weithwyr gofal plant preswyl, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis yn dilyn eich dyddiad dechrau yn y swydd.