Oriau gwaith: 30 oriau yr wythnos neu 25 oriau yr wythnos. Bydd yr oriau hyn yn cael eu gweithio yn ôl trefn rota Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am yr oriau sydd ar gael, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio gan ddefnyddio'r manylion wedi'u darparu isod.
Math o gontract: Parhaol, Rhan Amser
Lleoliad: Cynllun Byw â Chymorth Tŷ Brodawel
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Cynllun Byw â Chymorth ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £17,286.49 - £18,425 (25 oriau) and £20,743.78 - £22,110 (30 oriau), ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae hefyd swyddi achlysurol/cyflenwi ar gael ar gyfer y rôl hon ar gyflog o £14.36 yr awr.Mae Cynllun Byw â Chymorth Caerffili yn darparu gofal a chymorth hyblyg i oedolion ag anableddau dysgu. Rydyn ni'n chwilio am weithwyr Gofal Cymdeithasol benywaidd sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun. Ai chi yw'r person hwnnw?
Bydd y dyletswyddau'n cynnwys darparu cymorth ac arweiniad a chyflawni pob agwedd ar ofal personol yn ôl yr angen gan denantiaid/unigolion/preswylwyr, gan sicrhau preifatrwydd, urddas, parch, dewisiadau, annibyniaeth a hunan-barch yr unigolion ar bob adeg. Byddwch chi hefyd yn darparu cymorth o ran tasgau bywyd pob dydd, mynd i'r gymuned, gwyliau, helpu pobl i fyw eu bywyd gorau.
Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo o ran rheoli risg unigolion drwy gadw at Asesiadau Risg a Chynlluniau Rheoli yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Y gallu i gyflawni cymhwyster Lefel 2 neu 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol o fewn amserlen wedi'i chytuno.
- Dealltwriaeth o'r egwyddorion sydd wrth wraidd amgylchedd gofal o safon, h.y. preifatrwydd, urddas, parch, dewis, annibyniaeth a hawliau.
- Profiad gyda phobl sydd angen cymorth gyda phob agwedd ar ofal personol, bywyd pob dydd a sgiliau cymdeithasol.
- Y gallu i weithio sifftiau ar sail rota a gweithio'n hyblyg, gan gynnwys penwythnosau, gwyliau banc a dyletswyddau preswyl
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Linda Birt ar 07808251575 neu ebost:
Birtl@caerphilly.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2023 yn nodi'r gofyniad i'r holl weithwyr gofal plant preswyl, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis yn dilyn eich dyddiad dechrau yn y swydd.
Mae'n ofynnol bod deiliad llwyddiannus y swydd yn fenywaidd. Mae hon yn nodwedd warchodedig o dan ofyniad galwedigaethol y swydd yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.