Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am yr oriau sydd ar gael, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio gan ddefnyddio'r manylion isod.
Math o gontract: Parhaol
Lleoliad: Risga
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Llety ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £16,414 - £17,553 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae Cynllun Byw â Chymorth Caerffili yn ceisio recriwtio 3 Gweithiwr Gofal Cymdeithasol Benywaidd am 25 awr yr wythnos i weithio yn ardal Rhisga. Mae'r ffocws ar ddarparu gofal a chymorth sy'n hybu dewis ac annibyniaeth i unigolyn ag anabledd dysgu a chyflawni canlyniadau gwell i fyw bywyd yn dda.
Oes gennych chi dalent a rhinweddau sy'n ysbrydoli eraill? A all eich brwdfrydedd, eich parodrwydd a'ch ymrwymiad chi ddod â gwerth i wneud gwahaniaeth i unigolyn mewn cymunedau lleol?
Ydych chi'n effeithiol wrth feithrin perthnasoedd gweithio cadarnhaol gydag aelodau eraill o'r tîm? Ydych chi'n gallu cyfathrebu eich syniadau gydag angerdd, ymrwymiad a hyblygrwydd gwirioneddol a fydd yn gwella perfformiad y tîm Byw â Chymorth?
Meddyliwch yn ofalus am yr hyn y gallwch chi ei wneud, yr hyn rydych chi'n ei hoffi, yr hyn sy'n eich cymell chi mewn bywyd a phenderfynu a hoffech chi rannu eich ysbrydoliaeth chi ag eraill i wireddu eu breuddwydion a'u dymuniadau nhw.
Felly...os fedrwch chi, hoffen ni glywed gennych chi, codwch y ffôn a siarad gyda ni.
Fyddwch chi ddim yn cael eich siomi.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol: - Profiad gyda phobl sydd angen cymorth gyda phob agwedd ar ofal personol, bywyd bob dydd a sgiliau cymdeithasol.
- Y gallu a'r ymrwymiad i ennill cymhwyster Lefel 2 neu 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol o fewn amserlen y cytunwyd arni.
- Dealltwriaeth o'r egwyddorion sy'n sail i amgylchedd gofal o ansawdd, h.y. preifatrwydd, urddas, parch, dewis, annibyniaeth a hawliau
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Linda Birt ar 02920 880138 neu ebost: Birtl@caerphilly.gov.uk.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2023 yn nodi'r gofyniad i'r holl weithwyr gofal plant preswyl, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis yn dilyn eich dyddiad dechrau yn y swydd.
Penderfynir bod deiliad y swydd lwyddiannus yn fenywaidd. Mae hon yn nodwedd warchodedig o dan ofynion galwedigaethol y swydd yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.