Rydyn ni'n recriwtio Gweithiwr Gofal Cymdeithasol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 18 oriau yr wythnos / 14 oriau yr wythnos / Achlysurol
Math o gontract: Parhaol, Rhan Amser / Achlysurol, Wrth Gefn
Lleoliad: Cartref Seibiant Montclaire a Chartref Seibiant Tŷ Gwilym
Tîm: Gwasanaethau Seibiant
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £10,478.81 - £11,738.05 (14 oriau) / £13,472.76 - £15,091.78 (18 oriau) / £14.35 yr awr (Achlysurol / Wrth Gefn) ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Ymunwch â'n tîm fel Gweithiwr Gofal Cymdeithasol, lle byddwch chi'n chwarae rhan hanfodol wrth gynorthwyo pobl ag anableddau dysgu i fyw bywydau llawn, annibynnol ac ystyrlon yn eu cymuned. Byddwch chi'n darparu gofal hyblyg, sy'n canolbwyntio ar y person, gan hyrwyddo urddas, dewis ac annibyniaeth bob amser. Gan weithio mewn lleoliadau seibiant, byddwch chi'n helpu creu amgylchedd diogel, parchus sy'n grymuso, gan feithrin perthnasoedd cadarnhaol a galluogi unigolion i gyflawni eu nodau.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol:
- Y gallu i gyflawni cymhwyster Lefel 2 neu 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol o fewn amserlen wedi'i chytuno.
- Dealltwriaeth o'r egwyddorion sy'n sail i amgylchedd gofal o ansawdd, h.y. preifatrwydd, urddas, parch, dewis, annibyniaeth a hawliau.
- Sgiliau cyfathrebu da, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Mae wedi'i bennu bod rhaid i ddeiliad llwyddiannus y swydd fod yn fenyw. Mae hon yn nodwedd warchodedig o dan ofyniad galwedigaethol y swydd yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Nathan James ar 07791692185 neu ebost: Jamesn2@caerphilly.gov.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn derbyn ceisiadau wedi’u cyflwyno drwy wefan StudySmarter. Rhaid cyflwyno pob cais drwy wefan swyddogol y Cyngor.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2023 yn nodi'r gofyniad i'r holl weithwyr gofal plant preswyl, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis yn dilyn eich dyddiad dechrau yn y swydd.
Mae'n ofynnol bod deiliad llwyddiannus y swydd yn *INSERT GOR*. Mae hon yn nodwedd warchodedig o dan ofyniad galwedigaethol y swydd yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.