Oriau gwaith: 0 oriau / Wrth Gefn Math o gontract: Achlysurol
Lleoliad: Lleoliadau Amrywiol yn y Fwrdeistref
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Gwasanaethau i Oedolion.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £12.59 yr awr ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Oes gennych chi dalent a rhinweddau sy'n ysbrydoli eraill? A all eich brwdfrydedd, eich parodrwydd a'ch ymrwymiad ddod â gwerth i wneud gwahaniaeth i unigolyn mewn cymunedau lleol?
Ydych chi'n effeithiol wrth feithrin perthnasoedd gweithio cadarnhaol gydag aelodau eraill o'r tîm? Ydych chi'n gallu cyfathrebu eich syniadau gydag angerdd, ymrwymiad a hyblygrwydd gwirioneddol a fydd yn gwella perfformiad y tîm Byw â Chymorth?
Bydd angen i'r ymgeiswyr llwyddiannus fod â phrofiad o weithio mewn lleoliad gofal a gallu mabwysiadu agwedd frwdfrydig, ymroddedig a hyblyg at ddyletswyddau. Mae hyn yn cynnwys gweithio ar y penwythnos, preswylio ac ar wyliau banc.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol:
1. Gofyniad i gyflawni cymhwyster Lefel 2 neu 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol o fewn amserlen y cytunwyd arni hi. 2. Dealltwriaeth o'r egwyddorion sy'n sail i amgylchedd gofal o ansawdd, h.y. preifatrwydd, urddas, parch, dewis, annibyniaeth a hawliau. 3. Y gallu i weithio sifftiau ar sail rota, a gweithio'n hyblyg gan gynnwys penwythnosau, gwyliau banc a dyletswyddau cysgu i mewn.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Linda Birt ar 02920 880138 neu ebost: Birtl@caerphilly.gov.uk
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr