Oriau gwaith: 30 oriau - Bydd yr oriau hyn yn cael eu gweithio yn ôl trefn rota Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am yr oriau sydd ar gael, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio gan ddefnyddio'r manylion wedi'u darparu isod.
Math o gontract: Parhaol, Rhan Amser Lleoliad: Lleoliadau Amrywiol yn y Fwrdeistref
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Cynllun Cynnal Byw ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £19,697.84 - £21,064.05 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Mae gan Gynllun Byw â Chymorth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyfle gwych i ddau Weithiwr Gofal Cymdeithasol Benywaidd rhan-amser (30 awr yr wythnos). Ffocws y rolau hyn yw darparu gofal a chymorth sy'n hyrwyddo dewis ac annibyniaeth i gleientiaid benywaidd ag anabledd dysgu i'w galluogi nhw i fyw eu bywydau'n dda.
Bydd y rolau allweddol hyn yn mynnu bod yr ymgeiswyr llwyddiannus yn meithrin perthynas waith gadarnhaol ag aelodau eraill o'r tîm ac yn cyfleu syniadau ag angerdd gwirioneddol, ymrwymiad a hyblygrwydd a fydd yn gwella perfformiad y tîm yn ein Gwasanaeth Byw â Chymorth.
Bydd angen i'r ymgeiswyr llwyddiannus fod â phrofiad o weithio mewn lleoliad gofal a gallu mabwysiadu agwedd frwdfrydig, ymroddedig a hyblyg at ddyletswyddau. Mae hyn yn cynnwys gweithio ar y penwythnos, preswylio ac ar wyliau banc yn rheolaidd. Hefyd, mae profiad gyda chleientiaid sydd angen cefnogaeth a chymorth gyda phob agwedd ar fywyd pob dydd, gofal personol a sgiliau cymdeithasol yn hanfodol.
Rhaid i'r ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar gymhwyster Lefel 2 neu 3 priodol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu gyfwerth, neu ymrwymo i'w gyflawni o fewn blwyddyn i'r penodiad (yn amodol ar argaeledd hyfforddiant).
Os ydych chi'n credu bod gennych chi rinweddau a fydd yn ysbrydoli eraill i gyflawni, llawer iawn o frwdfrydedd, ac rydych chi yn wirioneddol eisiau ‘gwneud gwahaniaeth’ i fywydau eraill yn ein cymuned leol, byddem ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol:
1. Dealltwriaeth o'r egwyddorion sy'n sail i amgylchedd gofal o ansawdd, h.y. preifatrwydd, urddas, parch, dewis, annibyniaeth a hawliau. 2. Gwybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion presenoldeb cymunedol gwerthfawr. 3. Profiad gyda phobl sydd angen cymorth gyda phob agwedd ar ofal personol, bywyd bob dydd a sgiliau cymdeithasol.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Linda Birt ar 07808251575 neu ebost: birtl@caerphilly.gov.uk.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr