Oriau gwaith: 25 oriau yr wythnos (Parhaol) / 30 oriau yr wythnos (Cyfnod Penodol). Bydd yr oriau hyn yn cael eu gweithio yn ôl trefn rota Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am yr oriau sydd ar gael, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio gan ddefnyddio'r manylion wedi'u darparu isod.
Math o gontract: Rhan Amser, 1 x Parhaol, 1 x Cyfnod Penodol am 6 mis
Lleoliad: Ty Gwilym & Montclaire Cartref Seibiant
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Gwasanaethau i Oedolion ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £16,414.86 - £17,553.38 (25 oriau) / £19,697.84 - £21,064.05 (30 oriau) ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyfleoedd ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol yng Nghartref Gofal Montclaire yng Nghoed Duon a Chartref Gofal Tŷ Gwilym yn Eneu'r-glyn, Caerffili. Mae'r rolau ar draws y ddau wasanaeth gydag un rôl barhaol, ran-amser am 25 awr yr wythnos a'r llall yn gontract cyfnod penodol am 30 awr yr wythnos am 6 mis.
Nodwch yn glir ar eich ffurflen gais os oes rôl a fyddai'n well gennych chi.Os chi yw'r math o berson a allai fynd ati i hyrwyddo annibyniaeth, annog unigolion i wneud eu penderfyniadau eu hunain, eu cynorthwyo nhw i gymryd rhan mewn profiadau newydd a'u hannog nhw i gyflawni eu nodau personol, yna byddem ni wrth ein boddau'n clywed gennych chi!
Mae'r patrwm gwaith yn unol ag anghenion y gwasanaeth a bydd yn cynnwys gweithio yn ystod y dydd, gyda'r hwyr, ar y penwythnos, dros nos a phreswylio. Gall amseroedd y sifftiau amrywio o 7am–3pm, 3pm–10pm, 7am–10am a 10pm–7am.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Y gallu i gyflawni cymhwyster Lefel 2 neu 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol o fewn amserlen wedi'i chytuno.
- Dealltwriaeth o'r egwyddorion sydd wrth wraidd amgylchedd gofal o safon, h.y. preifatrwydd, urddas, parch, dewis, annibyniaeth a hawliau.
- Profiad gyda phobl sydd angen cymorth gyda phob agwedd ar ofal personol, bywyd pob dydd a sgiliau cymdeithasol.
- Y gallu i weithio sifftiau ar sail rota a gweithio'n hyblyg, gan gynnwys penwythnosau, gwyliau banc a dyletswyddau preswyl.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Nathan James / Rhia Manns ar 02920868398 neu ebost:
Jamesn2@caerphilly.gov.uk /
Mannsr@caerphilly.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2023 yn nodi'r gofyniad i'r holl weithwyr gofal plant preswyl, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis yn dilyn eich dyddiad dechrau yn y swydd.