Gwasanaethau Seibiant Anableddau Dysgu Ydych chi'n chwilio am her ac yn mwynhau cefnogi eraill? Rydyn ni'n chwilio am unigolion brwdfrydig a chryf eu cymhelliant i ymuno â'n carfan o Weithwyr Gofal Cymdeithasol yn y swyddi gwag canlynol:
- Gweithwyr Gofal Cymdeithasol Achlysurol - Lleoliadau Amrywiol ledled Rhondda Cynon Taf
Y rôl... Bydd y swydd yn gofyn i chi roi cymorth i unigolion ag anableddau dysgu o fewn Gwasanaeth Gofal Seibiant yn y gymuned.
Byddai profiad o fod yn gefn i bobl ag anableddau dysgu yn ddymunol ond nid yn hanfodol, gan y bydd disgwyl i'r ymgeiswyr llwyddiannus ddod âu sgiliau a'u profiadau nhw'u hunain i'r rôl.
Bydd cyfnod ymsefydlu trylwyr a chymorth parhaus drwy gydol eich cyflogaeth yn cael ei ddarparu er mwyn sicrhau eich bod chi'n gwneud y gorau o'ch potensial ac yn gweithio hyd eithaf eich gallu. Bydd angen i chi feddu ar gymhwyster proffesiynol angenrheidiol, neu ddangos y gallu i weithio tuag at hwnnw, a dangos ymrwymiad i'r swydd. Mae hefyd angen cofrestru fel Gweithiwr Gofal Cymdeithasol gyda Chyngor Gofal Cymru cyn pen chwe mis o gael eich penodi a pharhau i gofrestru bob blwyddyn ar ôl hynny.
Oherwydd bod y gwasanaethau ar gael 365 diwrnod y flwyddyn, bydd gofyn i chi weithio ystod o sifftiau ar sail rota, gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i; nosweithiau, penwythnosau a gwyliau banc gan gynnwys y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Bydd y swydd hefyd yn gofyn am y gallu i weithio sifftiau nos a chysgu mewn patrymau sifft.
Bydd angen i staff achlysurol fod yn hyblyg ac ar gael ar fyr rybudd er mwyn cynorthwyo'n cartrefi gofal a gweithio pan fydd staff parhaol yn absennol yn ystod yr wythnos, ar benwythnosau a dros nos.
Buddion... - Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wedi'i ariannu
- Aelodaeth cofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru wedi'i thalu
- Cefnogaeth lawn a rhaglen hyfforddiant am ddim
- Cysgodi aelodau o staff profiadol yn ystod eich cyfnod sefydlu
- Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) angenrheidiol a bydd asesiadau risg trylwyr o'r amgylchedd gwaith yn cael eu cynnal yn unol â chanllawiau'r llywodraeth
- Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol pwrpasol am ddim gan gynnwys hunanatgyfeirio ar gyfer ffisiotherapi a gwasanaeth cwnsela cyfrinachol
- Cynllun pensiwn gweithle hael
- Cerdyn buddion staff
- Mynediad i gardiau buddion ychwanegol i staff
- Cyfleoedd i ddatblygu'ch gyrfa
Oes diddordeb gyda chi...? Am sgwrs anffurfiol neu i gael gwybod rhagor am y swydd cyn i chi wneud cais, cysylltwch âr rheolwyr canlynol fydd yn hapus i siarad gyda chi:
- Leah Sullivan (Teras Belle Vue) – 07384910504
- Luke Giles (Byngalo Clwyd Wen) – 07867373211
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeiswyr llwyddiannus. Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.