1 x post 20 awr
1 x post 25 awr
3 x post 30 awr
2 x post 35 awr
Os ydych yn berson cadarnhaol, gofalgar a llawn cymhelliant sy'n hoffi helpu pobl, bydd croeso i chi ymuno â'n timau sy'n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu yn ein gwasanaethau byw â chymorth
Mae profiad yn cael ei groesawu, ond nid oes ei angen; credwn mai pwy ydych chi fel person a'r gwahaniaeth y gallwch ei wneud sy'n bwysig. P'un a ydych yn newydd i'r rôl neu wedi cefnogi teulu neu ffrindiau yn flaenorol, rydym am glywed gennych; y cyfan rydym yn ei ofyn yw bod gennych angerdd i wneud newidiadau cadarnhaol i fywydau pobl.
Bydd eich cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys: -
- Sicrhau bod unigolion yn cael eu hannog a'u grymuso i fynegi eu safbwyntiau a'u barn ym mhob maes gwneud penderfyniadau.
- Darparu cymorth gyda phob agwedd ar fywyd pob dydd a all gynnwys; tasgau yn y cartref a domestig, siopa a pharatoi deiet/bwyd, hylendid personol, gwisgo ac ymddangosiad personol.
- Cynorthwyo wrth gadw cofnodion cywir h.y. Cofnodion personol unigolion, cofnodion tŷ, llyfrau cyfathrebu, dyddiaduron, bwyd a gwariant arian mân.
- Cysylltu â theuluoedd, staff a gwasanaethau perthnasol i gynnal safon uchel o gymorth a darparu gwasanaeth o ansawdd.
- Cyfranogi mewn sesiynau goruchwylio a chyfleoedd datblygu staff fel y cytunwyd arnynt gan eich rheolwr a chymryd rhan yn weithredol mewn unrhyw hyfforddiant er mwyn cynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun a gwella cymhwysedd yn eich rôl.
- Bod yn gyfarwydd â Rheoliadau Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith, a sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu'n effeithiol tra byddwch yn y gwaith. Cynnal a chofnodi unrhyw brofion diogelwch a rhoi gwybod am unrhyw nam a nodir. Rhoi gwybod am offer diffygiol a, lle y bo'n angenrheidiol, ymdrin ar unwaith ag ef. Cynorthwyo aelodau o'r tîm a chysylltu â nhw, o ran cynnal safonau derbyniol ar gyfer cynnal a chadw a diogelwch y tŷ
- Deall yn llawn a pharchu pob mater sy'n ymwneud ag unigolion a staff gan sicrhau bod cyfrinachedd a chodau ymddygiad yn cael eu dilyn bob amser.
- Meddu ar ymwybyddiaeth, dealltwriaeth ac ymrwymiad i bolisïau a gweithdrefnau gweithredol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â: -
- Gwerthoedd ac egwyddorion cadarn, sy'n canolbwyntio ar y person.
- Y gallu i fod yn barchus a gwneud cyfraniad cadarnhaol i fywydau pobl.
- Sgiliau gwrando a chyfathrebu gweithredol
Os hoffech ein helpu i wneud gwahaniaeth dyma'r hyn y gallwn ei gynnig i chi: -
- Cyflog cystadleuol
- Hawl i wyliau blynyddol hael; ynghyd â'r opsiwn i brynu gwyliau ychwanegol
- Cofrestru ar gyfer y cynllun pensiwn llywodraeth leol rhagorol
- Cymwysterau wedi'u cyllido a'u cefnogi'n llawn - FfCCh Lefel 2 ac uwch Iechyd a Gofal Cymdeithasol (os nad ydych wedi'u cyflawni eisoes) a thelir am Gofrestriad Gweithiwr Gofal Cymdeithasol
- Rhaglen hyfforddi gynhwysfawr gyda chyfleoedd dysgu a datblygu ar gyfer dilyniant gyrfa
- Rhaglen Cymorth i Gyflogeion sy'n cynnig mynediad am ddim i gyflogeion 24 awr y dydd/365 diwrnod y flwyddyn i gael cwnsela, cyngor ac arbenigwyr cymorth ar gyfer amrywiaeth o faterion yn ogystal â chymorth iechyd a llesiant.
- Sawl cynllun gwobrwyo staff sy'n cynnig amrywiaeth o ostyngiadau ar-lein neu yn y stryd fawr ledled y wlad ac yn lleol.
- Mynediad at y Cynllun Buddiannau Car sy'n cynnig car newydd sbon ar brydles, yswiriant, treth ffordd, teiars newydd, gwasanaeth MOT ac yswiriant cynnal a chadw a thorri i lawr am un taliad misol, yn ogystal â'r Cynllun Beicio i'r Gwaith.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Dyletswyddau Nos, Cysgu i Mewn a Gweithio ar Benwythnosau yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person