Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Mae'r gwasanaeth mewngofnodi cyflogwyr nawr ar gael. Os ydych yn profi unrhyw broblemau, cysylltwch â ni.

Gweithiwr Gofal Cymunedol (Nos)

Dyddiad cau 30/10/2026

Cyflogwr

Cyngor Gwynedd/Gwynedd Council

Lleoliad

  • Gwynedd
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Parhaol
Cyflog
£32,497 - £33,014 a year (GS3) y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol

Disgrifiad o'r swydd

                                

Cyflog: £32,497.98 - £33,014.47

Oriau: 29.25 un wythnos a 39 yr wythnos wedyn – cyfanswm o 68.25 awr bob pythefnos.

Rydym yn awyddus i adeiladu tîm o staff nos ymroddedig a chefnogol i weithio yn ein safle Tai Gofal Ychwanegol ym Mhenrhos. Dyma gyfle cyffrous i fod yn rhan o wasanaeth sy'n galluogi pobl i gynnal eu hannibyniaeth, tra'n derbyn gofal a chefnogaeth o ansawdd uchel yn eu cartrefi eu hunain. Os oes gennych angerdd am wneud gwahaniaeth ac os ydych yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Elliw Haf Thomas ar ElliwHafThomas@gwynedd.llyw.cymru neu 07767498644.

Rhagwelir cynnal cyfweliadau.

Ffurflenni cais ar gael gan, Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076

eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru

DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 30/10/2026

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

                

Nodweddion personol

Hanfodol

Cyfathrebu

•Meddu a’r sgiliau rhyngbersonol da.

•Sgiliau cyfathrebu da a gwrando da.

•Dealltwriaeth glir o bwysigrwydd llais yr unigolyn wrth ddarparu gofal.

Datrys Problemau

•Yn gallu delio gyda problemau all godi ar fyr rybudd, neu dynnu ar arbenigedd unigolion eraill i helpu i ddatrys problem.

Gweithio gydag eraill

•Gallu gweithredu yn unigol ac fel aelod o dîm.

•Agwedd broffesiynol gyda’r gallu i adeiladu ymddiriedaeth gyda defnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd.

•Yn unigolyn sydd yn gallu dangos empathi tuag at anghenion unigolion gwahanol, a pharodrwydd i helpu.

Sgiliau eraill

•Bod yn berson sensitif, ymroddedig, gonest a dibynadwy gyda’r gallu i weithredu mewn modd sy’n parchu hawliau’r unigolyn bob amser.

•Yn gallu gweithio’n hyblyg, ac yn fodlon addasu os oes angen.

•Yn gallu gweithio'n annibynnol heb oruchwyliaeth uniongyrchol.

•Yn gallu rheoli amser ac yn berson dibynadwy.

•Unigolyn prydlon a threfnus.

Dymunol

Technoleg Gwybodaeth

•Yn hyderus yn defnyddio Technoleg Gwybodaeth, ac yn gallu gweithio oddi ar gyfrifiadur / gliniadur neu yn fodlon derbyn hyfforddiant (e.e., er mwyn cofnodi costau teithio, cwblhau hyfforddiant ar lein).

Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol

Hanfodol

•QCF Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol (neu gymhwyster cyfatebol) neu ymrwymiad i gymhwyso o fewn amserlen benodedig.

Dymunol

•Hyfforddiant mewn iechyd a diogelwch e.e. symud a thrin, cymorth cyntaf.

•Hyfforddiant Diogelu

•Hyfforddiant perthnasol yn y maes Gofal Cymdeithasol.

•Dealltwriaeth o gynlluniau a darpariaeth gofal person-ganolog.

Profiad perthnasol

Hanfodol

-

Dymunol

•Profiad o ofalu neu ymwneud ag oedolion bregus.

•Profiad o waith domestig cyffredinol megis cadw tŷ.

•Profiad o weithio mewn tîm proffesiynol.

Sgiliau a gwybodaeth arbenigol

Hanfodol

•Dealltwriaeth o egwyddorion darparu gofal.

•Gallu darparu gofal personol gyda pharch, urddas a sensitifrwydd.

•Gallu dilyn cynlluniau gofal, cofnodi gwybodaeth yn gywir, a chynnal cyfrinachedd.

•Gallu defnyddio offer yn ddiogel fel cynorthwywyr symudedd a thechnoleg gynorthwyol (neu yn fodlon derbyn hyfforddiant).

Dymunol

•Dealltwriaeth a gwybodaeth am gyflyrau iechyd penodol.

•Meddu ar drwydded yrru ddilys.

Anghenion ieithyddol

Gwrando a Siarad - Canolradd

Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.

Darllen a Deall - Canolradd

Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)

Ysgrifennu - Canolradd

Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).

                

Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Helpu unigolion sydd yn derbyn cefnogaeth i fyw eu bywydau yn eu cartrefi eu hunain fel maent yn dymuno.
• Cefnogi ac annog defnyddwyr gwasanaeth i fod mor annibynnol â phosibl drwy ddilyn cynllun personol yr unigolyn.

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.