Gweithiwr Gofal (Dyddiau) - Cartref Gofal Maesllewellyn
Cyflogwr
Carmarthenshire County Council / Cyngor Sir Gaerfyrddin
Lleoliad
-
Sir Gaerfyrddin
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Rhan Amser
- Math o gontract
- Dros dro
- Cyflog
- £27,630 - £28,515 y flwyddyn
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Rydym yn chwilio am unigolion gofalgar, tosturiol a dibynadwy sydd wedi ymrwymo i ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn:
- Meddu ar agwedd gadarnhaol a pharchus tuag at gefnogi pobl hŷn.
- Gallu gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm ac yn annibynnol pan fo angen.
- Meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da.
- Bod yn hyblyg ac yn barod i weithio amrywiaeth o shifftiau, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc lle bo'n berthnasol.
- Dangos ymrwymiad i hyrwyddo urddas, annibyniaeth a dewis i'r bobl rydym yn eu cefnogi.
Yr Hyn a Gynigiwn
- Rhaglen ymsefydlu lawn a hyfforddiant parhaus.
- Cymorth i gyflawni a chynnal gofynion cofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a dilyniant gyrfa.
- Amgylchedd gwaith cefnogol gyda thîm profiadol.
- Cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau preswylwyr bob dydd.
Mae hwn yn gyfle gwerth chweil i fod yn rhan o dîm ymroddedig sy'n darparu gofal preswyl o ansawdd uchel. P'un a ydych yn brofiadol ym maes gofal neu'n edrych i ddechrau gyrfa newydd, byddwn yn eich cefnogi i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i lwyddo.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles oedolion sydd mewn perygl. Bydd angen gwiriad DBS manwl ar yr ymgeisydd llwyddiannus.
Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â:
Sandra Jones
E-bost: SKJones@carmarthenshire.gov.uk
Ann-Marie Rogers
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein