Gweithiwr Gofal Plant Dechrau'n Deg
Cyflogwr
Carmarthenshire County Council / Cyngor Sir Gaerfyrddin
Lleoliad
-
Sir Gaerfyrddin
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Llawn Amser
- Math o gontract
- Dros dro
- Cyflog
- £25,949 (Gan gynnwys Tâl Atodol Cyflog Byw Gwirioneddol) - £26,403 y flwyddyn
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Rydym yn ceisio recriwtio gweithiwr gofal plant ar gyfer Tîm Blynyddoedd Cynnar Dechrau'n Deg ar gontract am 32.5 awr yr wythnos tan Rhagfyr 31 2026.
Lleolir Meithrinfa Dechrau'n Deg Sêr Ni yng Nghanolfan Blant Integredig Llwynhendy ac yn Ysgol Bynea. Mae'r Feithrinfa'n darparu gofal sesiynol o safon i blant Dechrau'n Deg yn ardal Dechrau'n Deg Llwynhendy a Bynea. Nod Sêr Ni yw gwella deilliannau dysgu yn y dyfodol drwy weithgareddau chwarae yn seiliedig ar ansawdd mewn partneriaeth â rhieni.
Rydym yn ceisio recriwtio unigolyn proffesiynol brwdfrydig sydd â phrofiad o weithio gyda'r Blynyddoedd Cynnar. Bydd angen i'r ymgeiswyr feddu ar gymhwyster Gofal Plant Lefel 3 a mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur sy'n canolbwyntio ar y plentyn.
Bydd yn ofynnol i'r ymgeiswyr siarad Cymraeg.
Am drafodaeth anffurfiol cysylltwch â Eleri Caine ar ejcaine@sirgar.gov.uk
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein