16 awr yr wythnos
Cyfnod Penodol Mawrth 2028
Yn ystod tymor yr ysgol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn croesawu ceisiadau o fewn ei Rhaglen Dechrau'n Deg. Mae Dechrau’n Deg yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac mae ar gael mewn ardaloedd targedig sy’n cefnogi pob teulu i roi Dechrau’n Deg mewn bywyd i blant 0-3 oed. Nod y rhaglen yw darparu gwasanaethau cymorth dwys i blant a'u teuluoedd
Ydych chi’n angrerddol am wneud gwahaniaeth ym mywydau plant ifanc?
Rydym yn chwilio am Weithiwr Gofal Plant ymroddedig a brwdfrydig i ymuno â’n tîm Dechrau’n Deg, gan gefnogi plant 2-3 oed i roi’r dechrau gorau posibl iddynt mewn bywyd.
Pam ymuno â ni?
Mwynhewch y fantais o weithio’r tymor ysgol yn unig, gan gynnig cydbwydsedd gwych rhwng bywyd a gwaith.
Mynediad at Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol hael.
Byddwch yn rhan o dîm proffesiynol a chefnogol sy’n ymrwymedig i ddarparu addysg blynyddoedd cynnar o’r safon uchaf.
Gweithio’n agos gyda gweithwyr proffesiynol eraill drwy bartneriaethau aml-asiantaeth, gan sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael y gefnogaeth orau bosib.
Cyfleodd parhaus ar gyfer datbylgiad proffesiynol a hyfforddiant.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano:
Rhywun sy’n wirioneddol angerddol dros weithio gyda phlant ifanc.
Unigolyn gofalgar, cymhellgar ac ymroddedig, sy’n awyddus i gefnogi datblygiad plant.
Profiad neu ddealltwriaeth o weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill er mwyn cefnogi teuluoedd yn gynhwysfawr.
Profiad o weithio fel uwch aelod o staff mewn amgylchedd gofal plant.
Mae'n rhaid i chi feddu ar gymhwyster gofal plant Lefel 3 perthnasol a bod yn barod i ymrwymo i gwblhau lefel 4/5 CCPLD.
Mae hon yn gyfle gwych I fod yn rhan o wasanaeth gwerth chweil sy’n canolbwyntio ar y gymuned ac yn helpu rhoi’r dechrau gorau posibl blant.
Gwnewch gais heddiw a helpwch ni uno dyfodol ein dysgwyr ifancaf!
Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais, cysylltwch â Lucy Davies or lucy.davies@bridgend.gov.uk or 07970381502
Mae'n ddymunol y byddwch yn gallu sgwrsio ac ymateb i ohebiaeth yn hyderus ac yn rhwydd yn y Gymraeg.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 25 Tachwedd 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 26 Tachwedd 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 04 Rhagfyr 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person