20 awr yr wythnos
Cyfnod Penodol 31 Mawrth 2027
Yn ystod tymor yr ysgol
A ydych yn angerddol am wneud gwahaniaeth i fywydau plant ifanc?
Rydym yn chwilio am Weithiwr Gofal Plant ymroddedig a brwdfrydig i ymuno â'n tîm Dechrau'n Deg, gan gefnogi plant 2-3 oed i roi'r dechrau gorau iddynt mewn bywyd.
Pam ymuno â ni?
Mwynhewch fanteision gweithio yn ystod y tymor, gan gynnig cydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith.
Mynediad at Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol hael.
Byddwch yn rhan o dîm cefnogol, proffesiynol sy'n ymrwymedig i ddarparu addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel.
Byddwch yn gweithio’n agos gydag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol drwy bartneriaethau amlasiantaethol, gan sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael y cymorth gorau posibl.
Cyfleoedd parhaus ar gyfer datblygiad proffesiynol a hyfforddiant.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano:
Rhywun sydd ag angerdd gwirioneddol am weithio gyda phlant ifanc.
Unigolyn gofalgar, llawn cymhelliant, a dibynadwy sy'n ymrwymedig i gefnogi datblygiad plant.
Profiad neu ddealltwriaeth o weithio amlasiantaethol i gefnogi teuluoedd yn gyfannol.
Bydd yn meddu ar gymhwyster gofal plant Lefel 3 perthnasol, yn ddelfrydol yn gweithio tuag at gymhwyster lefel 4 arweinyddiaeth a rheoli fel y nodir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer Dechrau'n Deg.
https://gofalcymdeithasol.cymru/cymwysterau-ac-ariannu/fframwaith-cymwysterau
Mae hwn yn gyfle gwych i fod yn rhan o wasanaeth gwerth chweil, sy'n canolbwyntio ar y gymuned ac sy'n helpu i roi'r dechrau gorau posibl i blant mewn bywyd. Mae'r swydd wedi'i lleoli i ddechrau yn ein lleoliad ym Melin Ifan Ddu a'r oriau gwaith yw dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30-3.30pm, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.
Gwnewch gais heddiw a'n helpu i lunio dyfodol ein dysgwyr ieuengaf!
I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais, cysylltwch â Rowena Lee ar Rowena.Lee@bridgend.gov.uk
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda rhestr Gwahardd Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 11 Mehefin 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 17 Mehefin 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person