Lleoliad gwaith: Hafan y Wern
Ymunwch â Ni yn Hafan y Wern –
Gwneud Gwahaniaeth Go Iawn, Un Dydd ar y Tro
Yn Hafan y Wern, nid ydym yn darparu gofal yn unig – rydym yn creu cartref. Mae ein lleoliad preswyl pwrpasol yng Nghonwy wedi’i gynllunio i fod yn ofod diogel a meithringar, lle mae plant a phobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu clywed a’u cefnogi.
Rydym yn chwilio am Weithwyr Gofal Plant Preswyl i ymuno â’n tîm. Mae hon yn fwy na swydd; mae’n gyfle i gerdded ochr yn ochr â phlant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth, gan gynnig cefnogaeth gyson, therapiwtig a’u helpu i adeiladu dyfodol gwell.
Byddwch yn helpu i greu amgylchedd strwythuredig a gofalgar, yn meithrin perthnasoedd cryf, ac yn cefnogi plant drwy heriau emosiynol ac ymddygiadol. Gan weithio’n hyblyg ar draws y ddau gartref, byddwch yn rhan o dîm angerddol sy’n rhoi plant wrth galon popeth a wnawn.
Rydym yn chwilio am rywun sy’n gynnes, yn wydn ac sydd â gwir angerdd dros gefnogi plant. Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad mewn gofal plant preswyl, yn meddu ar (neu’n gweithio tuag at) Diploma Lefel 3 QCF mewn Gofal Preswyl Plant, a bod gennych ddealltwriaeth gadarn o ymarfer sy’n rhoi ystyriaeth i drawma, diogelu, a datblygiad plant.
Os ydych yn rhywun sy’n arwain gydag onestrwydd, empathi a phositifrwydd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Hyd yn oed os nad ydych yn bodloni pob gofyniad ond yn teimlo y gallech ddod â rhywbeth arbennig i’r rôl, cysylltwch â ni.
Gwybodaeth Ychwanegol:
• Bydd angen gwiriad DBS estynedig ar bob ymgeisydd llwyddiannus.
• Darperir hyfforddiant therapiwtig a chefnogaeth barhaus.
Sut i Wneud Cais:
Os ydych yn angerddol am roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant, ac yn rhywun sy’n arwain gyda chynhesrwydd, onestrwydd a gwydnwch — byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Hyd yn oed os nad ydych yn bodloni pob gofyniad, ond yn teimlo y gallech ddod â rhywbeth arbennig i’r rôl hon, cysylltwch â ni.
Ymunwch â ni yn Hafan y Wern — a helpwch ni i newid bywydau, un dydd ar y tro.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Jessica Meredydd, Rheolwraig Cofrestredig Preswyl
( 07856932618 / jessica.meredydd1@conwy.gov.uk )
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i’n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo.
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.