Math o gontract: Parhaol
Lleoliad: Lleoliadau Amrywiol yn y Fwrdeistref
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Darpariaeth a Chymorth Lleoli ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £17,852 - £19,439 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn parhau i fuddsoddi yn ein darpariaethau preswyl ar gyfer plant yn y Fwrdeistref Sirol. Hoffen ni recriwtio staff sydd â'r gwerthoedd, y cymhelliant a'r ymrwymiad cywir i weithio yn y rôl werth chweil ond heriol hon.
Mae hwn yn gyfle cyffrous a, gyda hyn mewn golwg, rydyn ni'n awyddus i recriwtio Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant – Deffro yn y Nos. Fel Swyddog Deffro yn y Nos, byddwch chi'n chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu gofal a chymorth effeithiol i bobl ifanc i'w galluogi nhw i gyflawni canlyniadau cadarnhaol yn unol â'u cynllun personol.
Byddwch chi'n effro ar ddyletswydd ar bob adeg yn ystod y nos i fonitro, cynorthwyo ac ymateb i anghenion unigol pobl ifanc a gofynion/cyfarwyddyd y rheolwyr ar alwad. Bydd angen i chi gymryd cyfrifoldeb am ddarparu amgylchedd diogel a chefnogol, a gweithio'n agos gyda'r tîm i weithredu a rheoli’r trefniadau gofal nos arferol ar gyfer pobl ifanc yn ein gofal, mewn modd sensitif.
Rydyn ni'n chwilio am bobl frwdfrydig, galonogol ac ymarferol sydd, yn ddelfrydol, â phrofiad o weithio gyda phobl ag ymddygiadau cymhleth a heriol. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio mewn modd amlasiantaethol i gynorthwyo a hyrwyddo lles ac anghenion pobl ifanc sydd â lefel uchel o anghenion cymhleth.
Byddai profiad blaenorol o weithio mewn cartref preswyl i blant yn fanteisiol. Rydyn ni'n cynnig pecyn sefydlu a hyfforddi rhagorol, gan gynnwys helpu cyflogai i ennill cymwysterau sector-benodol a fydd yn cynorthwyo eich datblygiad proffesiynol. Rydyn ni hefyd yn darparu hyfforddiant a chymorth i'ch galluogi chi i weithio mewn modd therapiwtig a pherthynol. Bydd goruchwyliaeth gyfredol yn cael ei chynnig lle gallwch chi fynd i'r afael ag anghenion hyfforddi, datblygu a phersonol.
Bydd ymyrraeth â'r bobl ifanc yn cael ei darparu drwy ddull therapiwtig, a bydd yn canolbwyntio yn bennaf ar weithio gyda phobl ifanc mewn modd perthynol yn ogystal â darparu amgylchedd sy’n ddiogel yn emosiynol, cyson, cynnes, cefnogol a gofalgar i'r bobl ifanc ac i annog eu datblygiad cymdeithasol, corfforol, emosiynol, deallusol a moesol fel y gallan nhw wireddu eu potensial eu hunain.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio law yn llaw â'u cydweithwyr i gyflawni amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y plentyn, lle mae anghenion ein pobl ifanc wrth wraidd ein gwaith ni. Bydd angen ymagwedd ragweithiol arnoch chi, gan gynorthwyo plant a phobl ifanc drwy ymgysylltu â nhw mewn amrywiaeth o weithgareddau yn ogystal â chynorthwyo eu haddysg i hwyluso eu datblygiad corfforol a seicolegol. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ymddwyn mewn modd proffesiynol ar bob adeg wrth gynrychioli'r Awdurdod Lleol.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi: - Wedi ymrwymo i gwblhau, os nad yw eisoes wedi'i gofrestru, Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan o fewn amserlen benodol i alluogi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Cynnal Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc) neu gyfwerth (disgwylir i ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar y cymhwyster gofynnol gwblhau hyn, ynghyd â'r dyfarniad craidd newydd fel rhan o'r rôl ac yn unol â gofynion deddfwriaethol; darperir cefnogaeth barhaus i unigolion gwblhau'r wobr.)
- meddu ar wybodaeth sylfaenol o ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i'r rôl a dangos cydymffurfiaeth â pholisïau a gweithdrefnau'r Awdurdod bob amser.
- Cynnal trwydded yrru lawn Categori B (Ceir) y DU i yrru cerbyd y Cyngor i gludo plant, pobl ifanc yn rheolaidd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Adam Green ar 01443 811481 neu ebost: Willik19@caerphilly.gov.uk.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2023 yn nodi'r gofyniad i'r holl weithwyr gofal plant preswyl, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis yn dilyn eich dyddiad dechrau yn y swydd.