Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Mae'r gwasanaeth mewngofnodi cyflogwyr nawr ar gael. Os ydych yn profi unrhyw broblemau, cysylltwch â ni.

Gweithiwr Gofal Preswyl Nos i Blant

Dyddiad cau 04/09/2026

Cyflogwr

Monmouthshire County Council / Cyngor Sir Fynwy

Lleoliad

  • Sir Fynwy
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Parhaol
Cyflog
£27,254.00 - £29,064.00 per year y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gofal preswyl i blant
Rôl
Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant

Disgrifiad o'r swydd

Hysbyseb Swydd

A ydych yn ofalgar, cefnogol ac ymroddedig i rymuso pobl ifanc yn ein cymunedau? Os felly, rydym yn erych am unigolion caredig a ymroddedig i ymuno â’n Tîm Gofal Preswyl i Blant. 
Fel Gweithiwr Gofal Preswyl Nos ar Effro i Blant, byddwch yn gyfrifol am sicrhau lles emosiynol, diogelwch corfforol a lles ein plant a phobl ifanc drwy gydol y nos. Bydd angen i chi fod yn ymatebol, cynnal gwiriadau rheolaidd, dangos cydymdeimlad, cefnogaeth a chymorth, gan sicrhau fod pob plentyn yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod rhywun yn gofalu amdanynt. 
Mae’r swydd yn rhoi cyfle i ddatblygu perthynas o ymddiriedaeth ddofn gyda’r plant, gan gynnig cysur a sicrwydd iddynt yn ystod oriau tawel y nos. Byddwch yn cymryd rhan weithgar wrth gynnal trefn y cartref, o baratoi prydau bwyd syml a helpu gyda gofal personol i gadw’r cartref yn ddiogel a thaclus. P’un ai ydych yn sicrhau fod y cartref yn ddiogel neu’n cyfrannu at y prosesau cynllunio gofal, bydd eich gwaith yn ganolog i redeg y cartref yn llyfn. 
Os teimlwch mai chi yw’r unigolyn, yna edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Post Manylion

CYFLOG – GWYBODAETH BWYSIG: Byddai’r cyflog yn pro rata os nad ydych yn gweithio oriau llawn-amser neu 52 wythnos y flwyddyn h.y. oriau Cyfwerth ag Amser Llawn Athrawon yw 32.5 awr yr wythnos. Mae oriau Cyfwerth ag Amser Llawn Corfforaethol yn 37 awr yr wythnos.

Dyddiad Gorffen Dros Dro (os yn berthnasol):


Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.