2 x swydd 23 awr ar gael.
Os ydych yn berson cadarnhaol, gofalgar a llawn cymhelliant sy'n hoffi helpu pobl, bydd croeso i chi o fewn ein tîm Ymateb Symudol.
Rydym yn ceisio recriwtio 2 Weithiwr Gofal Ymateb Symudol, sy'n canolbwyntio ar ddarparu gofal a chymorth brys i bobl hŷn a phobl ag anableddau yn eu cartrefi eu hunain.
Bydd eich cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys:
- Ymateb yn brydlon i alwadau brys gan y Ganolfan Monitro Larwm Cymunedol.
- Ymweld â defnyddwyr gwasanaethau gartref a darparu cymorth ar unwaith.
- Darparu gofal personol, paratoi prydau, cymorth ymarferol, sicrwydd a gwybodaeth.
- Cydlynu ymatebion brys a lles â meddygon teulu, gwasanaethau ambiwlans, perthnasau, gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol eraill.
- Darparu cymorth cyntaf lle bo hynny'n briodol.
- Defnyddio offer codi arbenigol i gynorthwyo pobl sydd wedi cwympo ond sy'n ddianaf.
- Cwblhau asesiadau risg a chyfrannu atynt.
- Rhoi gwybod am bryderon a risgiau i Arweinwyr Tîm neu'r Tîm y Tu Allan i Oriau.
- Cynnal cofnodion, adroddiadau a dogfennaeth sy'n gywir.
- Darparu gwybodaeth am y gwasanaeth i ddefnyddwyr gwasanaethau, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol.
- Cefnogi dyletswyddau gweinyddol ar gyfer y Tîm Adnoddau Cymunedol (CRT) yn ystod cyfnodau tawelach.
- Trwydded yrru lân a'r gallu i yrru cerbydau Ymateb Symudol.
Rydym yn chwilio am:
- Agwedd ofalgar, dosturiol a chadarnhaol.
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol gwych.
- Gallu aros yn bwyllog mewn sefyllfaoedd brys.
- Galluoedd da o ran datrys problemau a gwneud penderfyniadau.
- Gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm.
- Sgiliau cryf o ran cadw cofnodion a gwaith gweinyddol.
- Dealltwriaeth o ddiogelu, asesu risg, ac arferion iechyd a diogelwch.
- Byddai profiad mewn gwaith gofal, gwasanaethau cymorth, neu faes cysylltiedig yn fuddiol.
Mae'r rôl hon yn gofyn am rywun sy'n gallu darparu gofal ymarferol a chymorth ymateb brys, wrth gynnal safonau uchel o broffesiynoldeb, diogelwch, a darparu gwasanaethau tosturiol.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae dyletswyddau nos a gweithio ar benwythnosau yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 2 Medi 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 7 Medi 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 14 Medi 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person