37 awr yr wythnos
Cyfnod Penodol - i ddechrau tan 31 Mawrth 2027
Gyda gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015), mae barn plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth ar gyfer gwasanaethau lleol wrth sicrhau bod unrhyw newid yn awr ac yn y dyfodol yn adlewyrchu anghenion cenhedlaeth y dyfodol. Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu cynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau er mwyn galluogi iddynt deimlo wedi'u grymuso mewn unrhyw benderfyniadau a newidiadau, ac felly darparu'r llwyfan iddynt ddod yn ddinasyddion gweithredol yn eu cymunedau.
Yn ogystal, mae gan yr holl blant a phobl ifanc (0-18) hawl i'w hawliau yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) a dylent fod yn ymwybodol o'r hawliau hyn a'n dyletswydd yw sicrhau drwy ddull partneriaeth cryf a chyson, bod plant a phobl ifanc yn ymwybodol o'u hawliau ac felly'n cynyddu eu cyfranogiad yn y broses o newid cadarnhaol. Rydym yn chwilio am unigolion dynamig sy'n gallu cynyddu cyfranogiad plant a phobl ifanc, gan eu harwain drwy'r broses gadarnhaol hon.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae gweithio ar benwythnosau yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: Gorffennaf 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 16 Gorffennaf 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 23 Gorffennaf 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person