Oriau gwaith: 37 oriau yr wythnos (Dydd Llun – Dydd Iau 08:30 – 17:00, Dydd Gwener 08:30 – 16:30)
Math o gontract: Parhaol, Llawn Amser
Lleoliad: Gall oriau gwaith gael eu rhannu rhwng y cartref a'r swyddfa yn dibynnu ar ofynion tasgau penodol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Cymunedol ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £26,421 - £28,770 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae'r tîm yn gweithio mewn modd ystwyth ac yn gweithio ochr yn ochr ag asiantaethau allanol gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae'r tîm yn gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth sy'n 18 oed a hŷn ac yn canolbwyntio ar gynorthwyo'r rheini â chyflyrau iechyd meddwl sy'n byw yn y gymuned i'w galluogi nhw i fyw bywydau bodlon ac annibynnol.
Fel rhan o dîm amlddisgyblaethol, bydd y Gweithiwr Iechyd Meddwl yn gweithio gydag unigolion i ddatblygu a chynnal trefnau iachus, strwythur a sgiliau hunangymorth i wella eu hadferiad ac ansawdd eu bywydau, gan eu galluogi nhw i wneud dewisiadau gwybodus a chymryd cyfrifoldeb tuag at ragor o annibyniaeth a lles gwelli. Bydd y Gweithiwr Iechyd Meddwl,, ochr yn ochr â'r unigolyn, yn cynllunio ac yn gweithredu rhaglenni gweithgareddau i ddiwallu anghenion wedi’u nodi a chanlyniadau defnyddiwr y gwasanaeth ac yn adolygu'r rhain yn rheolaidd mewn ymateb i newid, ac er mwyn dangos newid.
Byddai profiad o fewn maes iechyd meddwl a niwrowahaniaeth yn fanteisiol, ond yn bwysicach, rhywun sydd â'r sgiliau, gallu a'r ymrwymiad i wneud gwahaniaeth i fywydau ein defnyddwyr gwasanaeth, eu teuluoedd a'u gofalwyr.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Fframwaith Cymwysterau a Chredydau lefel 3 mewn Gofal (NVQ gynt) – neu fod yn ymroddedig i ennill y cymhwyster hwn.
- Dealltwriaeth o bwysigrwydd galluogi pobl i fod yn fwy annibynnol.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes/gwaith i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynychu cyfarfodydd, cludo cleientiaid ac ymweld â chleientiaid yn eu cartrefi nhw.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Yoland Bates ar 07786 271331 neu ebost: batesy@caerphilly.gov.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.