Rydyn ni'n recriwtio Gweithiwr Iechyd Meddwl yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Oriau gwaith: 37 oriau yr wythnos
Math o gontract: Parhaol, Llawn Amser
LLeoliad: Tredomen/lleoliadau mewn cymunedau ledled Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Tîm: Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Cymunedol
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £29,540 - £31,022 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Mae'r Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl yn awyddus i recriwtio Gweithiwr Iechyd Meddwl amser llawn o fewn Gwasanaethau i Oedolion. Mae'r tîm yn cynorthwyo unigolion ag anghenion iechyd meddwl cymhleth, drwy ddefnyddio dull sy’n ystyriol o drawma, sy'n canolbwyntio ar adfer, i hyrwyddo lles, atal dirywiad, a sicrhau cymaint o annibyniaeth â phosibl. Mae'r tîm yn gweithio'n agos gyda gwasanaethau eilaidd (Timau Iechyd Meddwl Cymunedol), a phartneriaid ac asiantaethau eraill yn y Fwrdeistref Sirol, i gynorthwyo'r rhai sy'n profi trallod meddwl difrifol a pharhaus, ac unigolion ag awtistiaeth ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD).
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol:
- Cymhwyster Lefel 2 perthnasol.
- Profiad mewn lleoliad gofal cymdeithasol.
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes/gwaith i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynd i gyfarfodydd, cludo cleientiaid, ac ymweld â chleientiaid yn eu cartrefi.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Yoland Bates ar 01495 235580 neu ebost: BATESY@CAERPHILLY.GOV.UK
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn derbyn ceisiadau wedi’u cyflwyno drwy wefan StudySmarter. Rhaid cyflwyno pob cais drwy wefan swyddogol y Cyngor.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.