Math o gontract: Cyfnod Penodol Tan 31 ain Mawrth 2025, Llawn Amser
Lleoliad: Lleoliadau Amrywiol yn y Fwrdeistref
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Gwasanaeth y Blynyddoedd Cynnar ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £26,241 - £28,770 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn hanfodol i ymgymryd â’r swydd hon. Felly, mae'r swydd yn cael ei hysbysebu yn unol â darpariaethau Adran 38 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976.Mae Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili yn recriwtio gweithiwr profiadol i gyflwyno ein hymyraethau cymorth i deuluoedd yn y cartref, yn y gymuned ac yn rhithwir.
Mae'r cymorth yn cynnwys ymyraethau cymorth pwrpasol i deuluoedd, gan weithio gyda'r teulu i fynd i'r afael â gwraidd y materion sydd wedi'u codi. Mae gan y swydd hon ffocws penodol ar gynorthwyo teuluoedd sydd â phryderon ynghylch iechyd meddwl a lles gan fod yn rhan annatod o'r ddarpariaeth cymorth i deuluoedd a thîm ehangach y Blynyddoedd Cynnar.
Mae'r cynnig hefyd yn cynnwys cyflwyno rhaglenni cynenedigol, ôl-enedigol ac amrywiaeth o raglenni rhianta/cymorth i deuluoedd fel sy'n cael eu nodi bod eu hangen gan y teulu. Mae'r holl ymyraethau ar gyfer plant 0-7 oed, gyda'r nod o helpu rhieni, helpu datblygiad eu plentyn a rhoi cymorth o ran gwytnwch teuluoedd.
Mae’r swydd wedi ei lleoli yn y Ganolfan Integredig i Blant, Parc y Felin, ond bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n ystwyth ledled y Fwrdeistref Sirol mewn cartrefi a lleoliadau cymunedol, yn ogystal â gweithio gartref rhywfaint. Mae'r swydd hon yn rhan o dîm ehangach y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant ac mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol: - Cymhwyster Lefel 3 perthnasol
- Phrofiad o weithio gyda phlant 0 i 7 oed a rhieni mewn grwpiau a theuluoedd unigol.
- Brofiad o gyflwyno pecynnau cymorth i deuluoedd yn y cartref neu yn y gymuned.
- Trwydded yrru lawn Categori B (Ceir) y DU a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes/gwaith i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynychu cyfarfodydd ac ymweld â theuluoedd yn eu cartrefi
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Ceri-Anne Lovell ar 07850319121 neu ebost:
lovelc@caerphilly.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.