Achlysurol - yn ôl y galw
A ydych wedi ystyried gyrfa mewn lleoliad gofal? A hoffech wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant/pobl ifanc? A ydych eisiau rôl sy'n cefnogi eich cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith? Os felly, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Mae hon yn adeg gyffrous i ymuno â CBS Pen-y-bont ar Ogwr wrth i ni barhau i ailfodelu'r ffordd rydym yn diwallu anghenion plant a phobl ifanc y mae angen ein cymorth arnynt. Mae'r cartrefi yn darparu lleoliadau o hyd amrywiol i blant/pobl ifanc yn yr ystod oedran 7 i 18 oed (ar adeg eu derbyn) nad ydynt (am ba reswm bynnag) yn gallu byw gyda'u teulu uniongyrchol neu estynedig eu hunain.
Mae'r cartrefi yn ymrwymedig i gynnig amgylchedd ysgogol, diogel, gofalgar sy'n hyrwyddo dull cyfannol ar gyfer pob agwedd ar fywyd y plentyn/person ifanc. A chithau'n Weithiwr Preswyl Plant, byddwch yn cael eich cynorthwyo i gael mynediad at amrywiaeth o hyfforddiant i'ch helpu i gyflawni'r rôl. Bydd angen i chi fod yn barod i gwblhau'r cyfnod sefydlu gofynnol i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a chwblhau'r cymhwyster gofynnol ar gyfer y rôl o fewn amserlen y cytunwyd arni fel y nodir gan fframwaith cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru. Gallai eich dyletswyddau gynnwys dyletswyddau nos, dyletswyddau penwythnos, dyletswyddau cysgu i mewn ac ymateb i argyfwng, ac mae'r angen i fod yn hyblyg yn allweddol i'r rôl hon.
A chithau'n Weithiwr Preswyl Achlysurol, byddwch yn gweithio fel rhan o dîm i:
- Darparu pecyn cymorth unigol i blant/pobl ifanc sy'n canolbwyntio ar eu hanghenion asesedig.
- Cynnig ymyriadau sy'n seiliedig ar wybodaeth therapiwtig i blant/pobl ifanc i'w cynorthwyo i gyflawni llesiant personol.
- Cynorthwyo plant/pobl ifanc i archwilio eu materion a'u profiadau eu hunain a gweithio drwy unrhyw emosiynau a theimladau a allai fod yn rhwystr i leoliad sefydlog a llety yn y dyfodol.
- Darparu lefelau cymorth priodol sy'n cydnabod, yn gwerthfawrogi, ac yn annog plant/pobl ifanc i gynnal sgiliau a chymwyseddau personol a hyrwyddo eu hyder a'u hunan-barch.
- Darparu pecyn cynhwysfawr o gymorth addysgol i hyrwyddo'r canlyniadau gorau posibl i blant/pobl ifanc yn eu lleoliad addysgol.
- Gweithio'n agos gyda theuluoedd neu ddirprwy deuluoedd i sicrhau pan fydd plant/pobl ifanc yn dychwelyd adref neu'n mynd i leoliadau addas eraill, bod cymorth digonol drwy gynllun pontio yn cael ei roi i'r person ifanc a'i deulu er mwyn sicrhau llwyddiant.
- Darparu rhaglenni byw'n annibynnol sy'n briodol i oedran er mwyn cynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol i'w galluogi i fyw'n annibynnol, os yw hynny'n briodol.
Os ydych yn ystyried gyrfa ym maes gofal cymdeithasol a/neu weithio mewn gofal preswyl, gallai hwn fod y cyfle delfrydol i chi. Os hoffech drafod y rôl ymhellach neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Jayne Sealey ar 07977677109.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Mae dyletswyddau Nos a Gweithio ar Benwythnosau yn un o ofynion y swydd hon.
Dyddiad Cau: 14 Hydref 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 23 Hydref 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 30 Hydref 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person