Neidio i'r prif gynnwys
Nodyn

Mae'r gwasanaeth mewngofnodi cyflogwyr nawr ar gael. Os ydych yn profi unrhyw broblemau, cysylltwch â ni.

Gweithiwr Preswyl Cartref Plant

Dyddiad cau 15/09/2026

Cyflogwr

Cyngor Gwynedd/Gwynedd Council

Lleoliad

  • Gwynedd
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Llawn Amser
Math o gontract
Parhaol
Cyflog
£27,274 - £29,071 a year (GS4) y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol

Disgrifiad o'r swydd

                                

Lleoliad: Deiniolen

Taliadau Ychwanegol

Nid yw eich cyflog safonol ond yn cynnwys unrhyw oriau contractedig sy’n daladwy ar gyfradd dâl heb ei gwella. Telir dyletswyddau ychwanegol fel gwaith nos, oriau ychwanegol, goramser, neu lwfansau cysgu mewn ar wahân i’r tâl sylfaenol ac nid ydynt yn rhan o’r cyflog blynyddol sylfaenol a nodir.

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Shelley Louise Williams ar 07484977023 neu dros ebost; ShelleyLouiseWilliams@gwynedd.llyw.cymru

Cynhelir cyfweliadau ar 30/09/2026

Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru

DYDDIAD CAU: 10:00 O’R GLOCH, 15/09/2026

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

                

Nodweddion personol

Hanfodol

Sensitifrwydd

Hyblygrwydd

Ymrwymiad i weithio i warchod lles plant.

Gallu i weithio dan bwysau.

Gallu i weithio ar ei liwt ei hun ac fel aelod o dîm.

Brwdfrydedd i ddysgu a gweithredu ystod o ddulliau ymyrraeth.

Agwedd gadarnhaol tuag at ddefnyddwyr gwasanaeth a chydweithwyr

Dymunol

-

Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol

Hanfodol

5 Tgau gradd C neu uwch

Dymunol

Cymhwyster mewn maes gwaith plant (NVQ 3, Diploma mewn Astudiaethau Lles, Datblygiad Plant)

Tystiolaeth o ddatblygiad personol perthnasol drwy hyfforddiant mewn swydd

Profiad perthnasol

Hanfodol

Profiad o weithio’n uniongyrchol gyda plant a phobl ifanc a’u teuluoedd

Profiad o gynllunio gwaith yn strwythuredig ac effeithiol

Profiad o weithio’n effeithiol gydag eraill ( cyd-weithwyr, teuluoedd ac asiantaethau)

Profiad o weithio’n unigol ac fel aelod o dîm.

Mynychu a chyfrannu tuag at gyfarfodydd.

Dymunol

Profiad o weithio gyda plant a theuluoedd sydd wedi profi anawsterau yn eu bywydau

Profiad o rhoi adborth dadansoddol ar waith a chynnydd mewn achosion unigol

Sgiliau a gwybodaeth arbenigol

Hanfodol

Sgiliau cyfathrebu da

Sgiliau TG

Gwybodaeth am anghenion plant a’u datblygiad.

Dealltwriaeth ac ymrwymiad i arferion gwrth hiliol a gwrth ormesol

Gallu i ddehongli a chofnodi digwyddiadau yn gywir a chlir.

Trwydded yrru gyfredol, lân.

Gallu i baratoi adroddiadau o ansawdd yn y Gymraeg a Saesneg.

Gallu i gyfathrebu yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig

Dymunol

Gwybodaeth am ddatblygu sgiliau personol e.e. rhiantu, dulliau o ddelio ag ymddygiad.

Anghenion ieithyddol

Gwrando a Siarad - Uwch

Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Darllen a Deall - Uwch

Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.

Ysgrifennu - Uwch

Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)

                

Pwrpas y Swydd:

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein porthol swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.