Os ydych chi'n feddyliwr brwdfrydig a chreadigol iawn ac eisiau bod yn rhan o dîm sy'n ehangu ac yn ysbrydoli, rydym eisiau clywed gennych!
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Swyddog Recriwtio yng Ngwasanaeth Maethu Cyngor Sir Powys. Yn y rôl hon, bydd gofyn i chi weithio'n effeithiol gyda'r staff ar draws y gwasanaeth gan gyfrannu at weithredu strategaeth farchnata gynhwysfawr, gan adeiladu proffil Gwasanaeth Maethu Cyngor Sir Powys a'i sefydlu fel y dewis cyntaf i unrhyw un sy'n ystyried dod yn ofalwr maeth.
Gyda'n gilydd, byddwn yn ysbrydoli pobl i gymryd eu camau cyntaf i Faethu i Gyngor Powys ac yn ein helpu i gyflawni ein nodau i dyfu ein cymuned o ofalwyr maeth i fodloni anghenion y plant a'r bobl ifanc mwyaf agored i niwed.
Mae'r cyfle unigryw hwn yn cynnig cyfle i'r ymgeisydd iawn nid yn unig wneud gwahaniaeth gwirioneddol i blant a theuluoedd, ond hefyd i lunio dyfodol Gwasanaeth Maethu Powys a gwneud eu marc yn broffesiynol gan ddefnyddio eu sgiliau, profiad, angerdd a phersonoliaeth.
Amdanoch chi: - Mae'n ofynnol i chi feddu ar neu fod yn gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol perthnasol mewn marchnata, rheoli digwyddiadau neu gysylltiadau cyhoeddus neu gyfwerth, neu'n gallu dangos lefel gyfartal o brofiad mewn marchnata, cyfathrebu, cysylltiadau cyhoeddus a/neu rôl debyg.
- Bydd gennych sgiliau ysgrifennu copi cadarn ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd a dibenion (cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, adroddiadau, taflenni, cynnwys ar gyfer gwefannau)
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn ogystal â sgiliau marchnata digidol ac all-lein a bod yn gallu dangos ymgysylltiad cadarnhaol â busnesau lleol a grwpiau cymunedol.
- Mae'n ofynnol i chi deithio'n eang o fewn yr awdurdod felly mae'n rhaid i chi feddu ar drwydded yrru gyfredol a darparu car. Mae'n r eich bod yn gallu gweithio'n hyblyg mewn ymateb i anghenion gwasanaeth, gan gynnwys penwythnosau a gyda'r nos.
- Gweithiwr marchnata creadigol, rhagweithiol sydd â'r angerdd a'r egni i wneud gwahaniaeth i fywydau plant
- Addysg hyd at lefel diploma mewn marchnata neu ddisgyblaeth gysylltiedig â marchnata hyd at NVQ Lefel 5 ac uwch neu gyfwerth.
- Profiad ymarferol o farchnata, cyfathrebu ac ymgysylltu, gyda phrofiad o ddarparu gwybodaeth mewn amrywiaeth o fformatau gan ddefnyddio cyfryngau lluosog.
- Meddu ar sgiliau rhyngbersonol da, y gallu i rwydweithio a gweithio'n effeithiol gydag eraill
Beth fyddwch chi'n ei wneud: - O ddydd i ddydd, byddwch yn cynllunio ymgyrchoedd hysbysebu i hyrwyddo maethu trwy amrywiaeth o ddigwyddiadau ac ymgyrchoedd, (er enghraifft wedi'u hargraffu, ar-lein, cyfryngau cymdeithasol a hysbysebu awyr agored).
- Eich cyfrifoldeb chi fydd dylunio, datblygu a gweithredu ystod o ddeunyddiau marchnata i ddenu ac ymgysylltu â darpar ofalwyr maeth ar gyfer Cyngor Powys.
- Gan gynnal ymchwil marchnad, byddwch yn monitro tueddiadau i nodi cyfleoedd i hyrwyddo maethu o fewn Cyngor Powys.
- Byddwch yn ymgymryd ag ysgrifennu copi, cysylltiadau cyfryngau adweithiol a rhagweithiol, cyfathrebu mewnol, a rheoli cynnwys digidol.
- Mesur llwyddiant ymgyrchoedd marchnata.
- Ymateb i ymholiadau gan y cyhoedd ac yn achlysurol ymweld â chartrefi darpar ofalwyr maeth.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r rôl, cysylltwch â:
Nia Wilson nia.wilson@powys.gov.uk 01597826399 Oherwydd natur y gwaith o dan sylw, mae'r swydd rydych yn gwneud cais amdani wedi'i chynnwys gan Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (fel y'i diwygiwyd yn 2013)
ystyrir oriau rhan amser