Gweithiwr Ymgysylltu Ieuenctid
Cyflogwr
Cyngor Sir Ynys Mon / Isle of Anglesey County Council
Lleoliad
-
Ynys Môn
- Pob ardal
Manylion
- Oriau contract
- Llawn Amser
- Math o gontract
- Dros dro
- Cyflog
- £33,119 - £36,581 per year y flwyddyn
- Maes gofal
- Gofal cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Mae Ynys Môn yn lle braf i fyw ac i weithio. Mae’n ymwneud â gwella bywydau’r bobl sy’n byw ac yn gweithio ar yr ynys. Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein blaenoriaethau rydym angen gweithwyr sydd yr un mor uchelgeisiol â ninnau, sy’n cymryd balchder yn eu gwaith, sydd â meddylfryd byd busnes, sy’n barod i weithio mewn partneriaeth ac sydd bob amser yn darparu’r safonau uchaf posibl. Ein nod yw creu Ynys Môn sy’n iach a llewyrchus, lle gall teuluoedd ffynnu.
Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y bobl rydyn ni’n eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig mwy na chyflog yn unig, felly edrychwch ar rai o’r buddion y gallwn eu cynnig i’n staff: Buddion o weithio i Gyngor Sir Ynys Môn
Pwrpas cyffredinol y swydd
Mae'r swydd yn cael ei hariannu gan Grant Cymorth Ieuenctid Llywodraeth Cymru (elfen Ymgysylltu Ieuenctid) ac fe'i dyrennir yn flynyddol. Contract cyfredol tan 31 Mawrth, 2028.
Bydd y Gweithiwr Ymgysylltu Ieuenctid yn rhan o dîm Ôl-16 y Gwasanaeth Ieuenctid, gan weithio'n bennaf gyda'r grŵp oedran 16-24 oed. Fodd bynnag, bydd disgwyl i'r person ar adegau penodol o'r flwyddyn weithio gydag Ysgolion Uwchradd a Gyrfa Cymru o flwyddyn 10 ymlaen i nodi pobl ifanc a allai fod mewn perygl o ddod yn NEET (nad ydynt mewn Cyflogaeth, Addysg na Hyfforddiant) ar ôl gadael yr
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr
Gwneud cais ar-lein