Am Y Gwasanaeth
Mae Teleofal Caerdydd yn chwilio am unigolion llawn cymhelliant i ymuno â’u tîm o Weithredwyr Canolfan Reoli.
Am Y Swydd
Bydd yr ymgeisydd yn gyfrifol am ymdrin ag amrywiaeth o alwadau Teleofal a galwadau atgyweirio y tu allan i oriau, a hynny o’r dechrau i’r diwedd, yn ogystal â gweithredu meddalwedd derbyn larymau. Mae'r swydd am gyfartaledd o 28 awr yr wythnos ac mae'n destun taliadau ychwanegol ar gyfer gwaith nos a phenwythnos.
Beth Rydym Ei Eisiau Gennych
Dylai’r ymgeisydd fod wedi ei addysgu i lefel TGAU neu gyfatebol, a bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus sgiliau cyfathrebu a TG gwych a’r gallu i addasu a dysgu’n gyflym. Mae agwedd gadarnhaol sy’n rhoi’r cwsmer yn gyntaf yn hanfodol. Mae awydd gwirioneddol i helpu a digon o empathi yn allweddol i lwyddiant yn y rôl hon. Mae'r swydd hon yn rhan-amser a bydd yn gweithio 28 awr yr wythnos. Mae'n destun taliadau ychwanegol ar gyfer gwaith nos, penwythnos a gŵyl y banc.
Byddai'r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig y Gymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol yn fantais.
Gwybodaeth Ychwanegol
Swydd rhan amser yw hon, a bydd y deiliad yn gweithio 28 awr yr wythnos.
Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Rydym yn deall y gallech ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn ffeithiol gywir, yn onest, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Huw Parry-Evans ar (029) 2053 7080.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-
Atodiadau