Oriau gwaith: 0 oriau / Wrth Gefn
Math o gontract: Achlysurol
Lleoliad: Lleoliadau Amrywiol yn y Fwrdeistref
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Gwasanaethau Seibiant ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £12.59 yr awr ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Rôl Gweithiwr Gofal Cymdeithasol yw darparu gofal, cymorth ac arweiniad yn unol â Chynlluniau Gofal wedi'u cytuno. Bydd angen i chi ddarparu pob agwedd ar ofal personol a sicrhau bod preifatrwydd, urddas, parch, dewisiadau, annibyniaeth a hunan-barch y person yn cael eu cynnal bob amser.
Mae'r rôl hon yn cynnig y cyfle i gynorthwyo unigolion mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i hyrwyddo eu hannibyniaeth, gan eu hannog nhw i fynegi eu barn a chymryd rhan mewn penderfyniadau perthnasol am y cymorth a'r gwasanaeth sydd eu hangen arnyn nhw.
Mae'r rôl hefyd yn cynnwys cynorthwyo rhai unigolion ag anghenion symudedd yn unol â'u cynllun trin mwy diogel.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol:
- Y gallu i gyflawni cymhwyster Lefel 2 neu 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol o fewn amserlen wedi'i chytuno
- Profiad o weithio mewn lleoliad gofal a dealltwriaeth o'r egwyddorion sy'n sail i amgylchedd gofal o ansawdd, h.y. preifatrwydd, urddas, parch, dewis, annibyniaeth a hawliau
- Agwedd llawn cymhelliant, ymrwymedig a hyblyg at ddyletswyddau, a'r gallu i weithio sifftiau ar sail rota gan gynnwys penwythnosau, gwyliau banc a dyletswyddau preswyl
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2023 yn nodi'r gofyniad i'r holl weithwyr gofal plant preswyl, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis yn dilyn eich dyddiad dechrau yn y swydd.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Nathan James ar 07873702393,
jamesn2@caerphilly.gov.uk neu Rhia Manns ar 07775730277,
mannsr@caerphilly.gov.uk .
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth