Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal plant
Gweithle
Gofal preswyl i blant
Rôl
Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Sylva Gardens, Llandudno
Ydych chi eisiau gweithio i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau pobl ifanc?
Rydym ni'n frwd dros weithio gyda'n gilydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau plant a phobl ifanc a'u galluogi i 'fyw'r bywyd gorau posib' drwy ddarparu amgylchedd cefnogol a chartrefol iddynt sy'n canolbwyntio ar eu hanghenion unigol. Gwneir hynny drwy osod y plant / pobl ifanc yn ganolog i'r holl gynlluniau cefnogi a strategaethau a ddatblygir i'w galluogi i fagu sgiliau ymhob agwedd ar eu bywydau a rhoi iddynt annibyniaeth ac ymdeimlad o gael eu cynnwys yn eu cymunedau, gyda phopeth yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig iddynt.
Mae Sylva Gardens yn Gartref Plant Cofrestredig ar gyfer tri o blant nes byddant yn ddeunaw oed.
Swyddogaeth y gweithiwr cefnogi yw:
Darparu cymorth mewn amgylchedd cartrefol sy'n unigryw i bob plentyn/person ifanc, lle maent yn teimlo'n hapus ac yn ddiogel.
Gweithio fel tîm wrth ddarparu cymorth wedi'i deilwra yn ôl anghenion datblygu penodol pob plentyn.
Bydd disgwyl i chi: Sicrhau eich bod yn hyrwyddo a gwerthfawrogi 'Cefnogaeth Weithredol', 'Cefnogi Ymddygiad Cadarnhaol' a 'Lleihau Arferion sy'n Cyfyngu' fel dulliau canolog o alluogi plant a phobl ifanc i chwarae mwy o ran yn eu bywydau bob dydd, meithrin perthnasoedd cadarn gyda'r bobl o'u cwmpas nhw, datblygu sgiliau byw'n annibynnol a dod yn aelodau gweithredol o'u cymunedau drwy ddarparu gofal o ansawdd uchel.
Medru delio â sefyllfaoedd anodd a thyngedfennol a defnyddio strategaethau priodol / dyfeisgar wrth gefnogi plant a phobl ifanc i reoli ymddygiad heriol.
Dangos ymroddiad, natur agored a pharodrwydd i weithio â'r dull gofal sydd wedi'i sefydlu i fodloni anghenion y plant/pobl ifanc.
Creu amgylchedd cartrefol, cynnes, caredig a chyfeillgar gan sicrhau bod eich holl weithredoedd yn dryloyw ac yn agored i'w trafod yn rhan o oruchwyliaeth broffesiynol yn unol â'r Codau Ymarfer Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Cymdeithasol.
Datblygu cydberthnasau proffesiynol dibynadwy gyda phlant a phobl ifanc i'w cadw'n ddiogel, gan sicrhau cydbwysedd rhwng eu grymuso a gosod ffiniau mewn modd meithringar, cefnogol a chyson.
Datblygu eich sgiliau eich hun er mwyn cyfathrebu'n llwyddiannus â'r plentyn/person ifanc gan ddilyn strategaeth y maent yn ei deall.
Gweithio oriau anghymdeithasol ar sail rota, cysgu i mewn a gweithio dros nos er mwyn bodloni anghenion unigol y plant a'r bobl ifanc.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano gennych chi: Profiad o weithio'n effeithiol gyda phlant a phobl ifanc sy'n ymddwyn yn heriol.
Gallu cwblhau Fframwaith Ymsefydlu Cymru Gyfan ac unrhyw hyfforddiant perthnasol arall yn y chwe mis cyntaf yn y swydd er mwyn cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Gallu ennill cymhwyster Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc ar y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau er mwyn cynnal cofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru fel Gweithiwr Gofal Plant Preswyl.
Gallu ennill cymhwyster Lefel 3 mewn Cefnogi Ymddygiad Cadarnhaol er mwyn deall pam fod pobl yn ymddwyn mewn ffyrdd sy'n peri pryder a gwybod sut i'w cefnogi i reoli ymddygiad felly.
Cwblhau hyfforddiant i fagu sgiliau i fedru cyfathrebu'n effeithiol â'r plant a phobl ifanc, fel Makaton, symbolau PEC ac ati.
Gall Weithwyr Gofal weithio mewn lleoliadau gofal eraill o fewn y sir. Mae'r lleoliadau'n cynnwys y rhai sy'n cefnogi unigolion gydag anableddau dysgu a/neu anghenion emosiynol ac ymddygiad cymhleth a bydd hyfforddiant a chefnogaeth lawn yn cael ei ddarparu.
Am drafodaeth ffurfiol am y swydd cysylltwch â:
Sonia Booth ar 01492 577604 Neu Emma Edwards ar 01492 575002
Byddwn hefyd yn cynnal 2 sesiwn wybodaeth er mwyn i ymgeiswyr sydd â diddordeb ddysgu mwy am y swydd.
Cysylltwch â Sonia Booth neu Emma Edwards i gael rhagor o wybodaeth a manylion.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Sonia Booth, Rheolwr Tîm, 01492 577604 sonia.booth@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i'w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr