Sylwch y bydd ein swyddfa ar gau o ddydd Gwener 20 Rhagfyr tan ddydd Llun 6 Ionawr.
Yn ystod y cyfnod hwn, ni fyddwn yn gallu delio ag unrhyw ymholiadau. Diolch am eich dealltwriaeth.
Gweithwyr Gofal Plant Preswyl (Effro Drwy’r Nos) x 6
Dyddiad cau 06/01/2025
Cyflogwr
Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gofal preswyl i blant
Rôl
Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant
Disgrifiad o'r swydd
Nodwch os bydd cyfanswm uchel o ymgeiswyr y byddwn yn dod â'r hysbyseb swydd i ben yn gynt.
Lleoliad gwaith: Llandudno
Ydych chi eisiau gweithio i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau pobl ifanc?
Rydym ni'n frwd dros weithio gyda'n gilydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau plant a phobl ifanc a'u galluogi i 'fyw'r bywyd gorau posib' drwy ddarparu amgylchedd cefnogol a chartrefol iddynt sy'n canolbwyntio ar eu hanghenion unigol. Gwneir hynny drwy osod y plant / pobl ifanc yn ganolog i'r holl gynlluniau cefnogi a strategaethau a ddatblygir i'w galluogi i fagu sgiliau ymhob agwedd ar eu bywydau a rhoi iddynt annibyniaeth ac ymdeimlad o gael eu cynnwys yn eu cymunedau, gyda phopeth yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig iddynt.
Mae Sylva Gardens yn Gartref Plant Cofrestredig ar gyfer tri o blant nes byddant yn ddeunaw oed.
Yr hyn y byddwch chi'n ei wneud:
- Cefnogi plant a phobl ifanc dros nos
- Ymgymryd â rôl 'Arweinydd ar Shift' yn ôl yr angen a darparu mentora ac arweiniad yn unol ag egwyddorion y cartref i aelodau staff llai profiadol Lefel 1 a Lefel 2. - Cefnogi Gweithwyr Gofal Plant Preswyl Lefel 1 a Lefel 2 ar shifft, i sicrhau bod tasgau'n cael eu cwblhau a hysbysu cydweithwyr am ddatblygiadau a digwyddiadau arwyddocaol, er enghraifft, yn ystod y cyfnod trosglwyddo. - Cynorthwyo plant a phobl ifanc er mwyn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed a'u cefnogi i ddatblygu sgiliau tuag at eu dyfodol mwy hirdymor. - Cynllunio a chynnal gweithgareddau llawn dychymyg gyda'r unigolyn, a fydd hefyd yn ei helpu i ddatblygu sgiliau. - Deall bod rhai plant yn mynegi eu teimladau a'u meddyliau trwy ddefnyddio ymddygiad sy'n peri pryder, a bydd gennych ymagwedd sy'n credu yn eich gallu i ddysgu'r plentyn sut i gyfathrebu mewn ffordd wahanol, felly mae gwaith tîm yn allweddol. - Gweithio yn rhan o dîm yng nghartref y plentyn neu'r gymuned leol, gan ysgogi a chefnogi'r unigolyn i gymryd rhan mewn ystod eang o ddiddordebau arbennig a gweithgareddau sy'n cefnogi ei iechyd a'i les, megis trampolinio, ymweld â'r traeth / parc, cerdded, nofio, pobi / coginio, chwarae gemau, canu a dawnsio, crefftau, ymysg pethau eraill. - Darparu cymorth mewn amgylchedd cartrefol, caredig a chyfeillgar, sy'n unigryw i bob plentyn / person ifanc, lle mae'n teimlo'n hapus ac yn ddiogel. - Gweithio fel tîm wrth ddarparu cymorth wedi'i deilwra yn ôl anghenion datblygu penodol pob plentyn.
Bydd disgwyl i chi:
- Sicrhau eich bod yn hyrwyddo a gwerthfawrogi'r 'Gefnogaeth Weithredol', 'Cefnogi Ymddygiad Cadarnhaol' a 'Lleihau Arferion sy'n Cyfyngu' fel dull canolog o alluogi plant a phobl ifanc i chwarae mwy o ran yn eu bywydau bob dydd, meithrin perthnasoedd cadarn gyda'r bobl o'u cwmpas nhw, datblygu sgiliau byw'n annibynnol a dod yn aelodau gweithredol o'u cymunedau drwy ddarparu gofal o ansawdd uchel. - Medru delio â sefyllfaoedd anodd a thyngedfennol a defnyddio strategaethau priodol / dyfeisgar wrth gefnogi plant a phobl ifanc i reoli ymddygiad heriol. - Dangos ymroddiad, natur agored a pharodrwydd i weithio â'r dull gofal sydd wedi'i sefydlu i fodloni anghenion y plant / pobl ifanc. - Creu amgylchedd cartrefol, cynnes, caredig a chyfeillgar gan sicrhau bod eich holl weithredoedd yn dryloyw ac yn agored i'w trafod yn rhan o oruchwyliaeth broffesiynol yn unol â'r Codau Ymarfer Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Cymdeithasol. - Datblygu cydberthnasau proffesiynol dibynadwy gyda phlant a phobl ifanc i'w cadw'n ddiogel, gan sicrhau cydbwysedd rhwng eu grymuso a gosod ffiniau mewn modd meithringar, cefnogol a chyson. - Datblygu eich sgiliau eich hun er mwyn cyfathrebu'n llwyddiannus â'r plentyn / person ifanc gan ddilyn strategaeth y mae yn ei deall. - Gweithio oriau anghymdeithasol ar sail rota a gweithio dros nos er mwyn bodloni anghenion unigol y plant a'r bobl ifanc.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano gennych chi: - Profiad o weithio'n effeithiol gyda phlant a phobl ifanc sy'n ymddwyn yn heriol. - Byddwch wedi cwblhau Lefel 3 City & Guilds mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu gyfwerth gyda Phlant a Phobl Ifanc. - Byddwch yn cefnogi gweithwyr Plant Preswyl Lefel 1 a Lefel 2 i ddatblygu eu hymarfer i fodloni gofynion cofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru, gan gynnwys adnewyddu cofrestriad. - Gallu ennill cymhwyster Lefel 3 mewn Cefnogi Ymddygiad Cadarnhaol er mwyn deall pam mae pobl yn ymddwyn mewn ffyrdd sy'n peri pryder a gwybod sut i'w cefnogi i reoli ymddygiad felly. - Cwblhau hyfforddiant i fagu sgiliau i fedru cyfathrebu'n effeithiol â'r plant a phobl ifanc, fel Makaton, symbolau PEC ac ati. - Gallu bod yn greadigol ac agored eich meddwl parthed dulliau o gefnogi er mwyn i'r plant gyrraedd eu potensial. - Bod gennych natur gyfeillgar, ddibynadwy a chefnogol gydag agwedd gadarnhaol at fywyd, a gallu datblygu perthnasoedd cadarnhaol ac adeiladol gyda'r plant yr ydych yn eu cefnogi. - Eich bod yn wydn. Rydym i gyd yn cael diwrnodau da a rhai ddim cystal; bydd yn rhaid i chi allu aros yn ddigyffro a chefnogol.
Byddwn hefyd yn cynnal dwy sesiwn wybodaeth i alluogi ymgeiswyr sydd â diddordeb i gael gwybod mwy am y swydd. Cysylltwch â Sonia Booth am fwy o wybodaeth a manylion.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Sonia Booth, Rheolwr Tîm (01492 577604, sonia.booth@conwy.gov.uk)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn Dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau.
Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr