Lleoliad gwaith: Llandudno
Ydych chi eisiau gweithio i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau pobl ifanc?
Rydym ni’n frwd dros weithio gyda’n gilydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau plant a phobl ifanc a’u galluogi i ‘fyw’r bywyd gorau posib’ drwy ddarparu amgylchedd cefnogol a chartrefol iddynt sy’n canolbwyntio ar eu hanghenion unigol. Gwneir hynny drwy osod y plant / pobl ifanc yn ganolog i’r holl gynlluniau cefnogi a strategaethau a ddatblygir i’w galluogi i fagu sgiliau ymhob agwedd ar eu bywydau a rhoi iddynt annibyniaeth ac ymdeimlad o gael eu cynnwys yn eu cymunedau, gyda phopeth yn seiliedig ar yr hyn sy’n bwysig iddynt.
Mae Sylva Gardens yn Gartref Plant Cofrestredig ar gyfer tri o blant nes byddant yn ddeunaw oed.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud:
- Cynorthwyo plant a phobl ifanc er mwyn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed a’u cefnogi i ddatblygu sgiliau tuag at eu dyfodol mwy hirdymor.
- Cynllunio a chynnal gweithgareddau llawn dychymyg gyda’r unigolyn, a fydd hefyd yn ei helpu i ddatblygu sgiliau.
- Deall bod rhai plant yn mynegi eu teimladau a’u meddyliau trwy ddefnyddio ymddygiad sy’n peri pryder, a bydd gennych ymagwedd sy’n credu yn eich gallu i ddysgu’r plentyn sut i gyfathrebu mewn ffordd wahanol, felly mae gwaith tîm yn allweddol.
- Gweithio yn rhan o dîm yng nghartref y plentyn neu’r gymuned leol, gan ysgogi a chefnogi’r unigolyn i gymryd rhan mewn ystod eang o ddiddordebau arbennig a gweithgareddau sy’n cefnogi ei iechyd a’i les, megis trampolinio, ymweld â’r traeth / parc, cerdded, nofio, pobi / coginio, chwarae gemau, canu a dawnsio, crefftau, ymysg pethau eraill.
- Darparu cymorth mewn amgylchedd cartrefol, caredig a chyfeillgar, sy’n unigryw i bob plentyn / person ifanc, lle mae’n teimlo’n hapus ac yn ddiogel.
- Gweithio fel tîm wrth ddarparu cymorth wedi’i deilwra yn ôl anghenion datblygu penodol pob plentyn.
Bydd disgwyl i chi:
- Sicrhau eich bod yn hyrwyddo a gwerthfawrogi’r ‘Gefnogaeth Weithredol’, ‘Cefnogi Ymddygiad Cadarnhaol’ a ‘Lleihau Arferion sy’n Cyfyngu’ fel dull canolog o alluogi plant a phobl ifanc i chwarae mwy o ran yn eu bywydau bob dydd, meithrin perthnasoedd cadarn gyda’r bobl o’u cwmpas nhw, datblygu sgiliau byw’n annibynnol a dod yn aelodau gweithredol o’u cymunedau drwy ddarparu gofal o ansawdd uchel.
- Medru delio â sefyllfaoedd anodd a thyngedfennol a defnyddio strategaethau priodol / dyfeisgar wrth gefnogi plant a phobl ifanc i reoli ymddygiad heriol.
- Dangos ymroddiad, natur agored a pharodrwydd i weithio â’r dull gofal sydd wedi’i sefydlu i fodloni anghenion y plant / pobl ifanc.
- Creu amgylchedd cartrefol, cynnes, caredig a chyfeillgar gan sicrhau bod eich holl weithredoedd yn dryloyw ac yn agored i’w trafod yn rhan o oruchwyliaeth broffesiynol yn unol â’r Codau Ymarfer Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Cymdeithasol.
- Datblygu cydberthnasau proffesiynol dibynadwy gyda phlant a phobl ifanc i’w cadw’n ddiogel, gan sicrhau cydbwysedd rhwng eu grymuso a gosod ffiniau mewn modd meithringar, cefnogol a chyson.
- Datblygu eich sgiliau eich hun er mwyn cyfathrebu’n llwyddiannus â’r plentyn / person ifanc gan ddilyn strategaeth y mae yn ei deall.
- Gweithio oriau anghymdeithasol ar sail rota
Yr hyn rydym yn chwilio amdano gennych chi:
- Profiad o weithio’n effeithiol gyda phlant a phobl ifanc sy’n ymddwyn yn heriol.
- Bod gennych eisoes gymhwyster Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc ar y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau er mwyn cynnal cofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru fel Gweithiwr Gofal Plant Preswyl.
- Meddu ar Gymhwyster Lefel 2 o leiaf mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
- Cwblhau hyfforddiant i fagu sgiliau i fedru cyfathrebu’n effeithiol â’r plant a phobl ifanc, fel Makaton, symbolau PEC ac ati.
- Gallu bod yn greadigol ac agored eich meddwl parthed dulliau o gefnogi er mwyn i’r plant gyrraedd eu potensial.
- Bod gennych natur gyfeillgar, ddibynadwy a chefnogol gydag agwedd gadarnhaol at fywyd, a gallu datblygu perthnasoedd cadarnhaol ac adeiladol gyda’r plant yr ydych yn eu cefnogi.
- Eich bod yn wydn. Rydym i gyd yn cael diwrnodau da a rhai ddim cystal; bydd yn rhaid i chi allu aros yn ddigyffro a chefnogol.
Os nad ydych chi’n siŵr iawn beth ydi gwaith Gweithiwr Gofal Plant Preswyl neu os oes gennych chi’r cymhwyster neu’r profiad cywir, dewch i un o’n sesiynau gwybodaeth er mwyn i ni siarad efo chi am y rôl a’ch cefnogi i wneud cais.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Laura Armstrong, Rheolwr Preswyl Cofrestredig (07523978952/ laura.armstrong@conwy.gov.uk )
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau.
Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.