Gwirfoddoli i Gefnogi ein Pobl Ifanc ym Mhowys Swydd-ddisgrifiad Ai chi yw'r unigolyn hwnnw a all wneud gwahaniaeth trwy gefnogi ein Pobl Ifanc trwy amseroedd anodd a heriol.
Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Powys a Phobl Ifanc Powys yn gofyn am fath arbennig o unigolyn a all helpu i drwsio'r niwed a achosir gan Bobl Ifanc sy'n cyflawni troseddau trwy ddod yn rhan o Drefn Atgyfeirio a Phanel Biwro lle y bydd pobl leol yn arwain trwy herio plant/pobl ifanc i gymryd cyfrifoldeb dros eu gweithredoedd a'u helpu i newid eu hymddygiadau. Mae paneli Cyfiawnder Adferol yn rhoi cyfle i'r bobl hynny a niweidwyd i leisio sut mae'r drosedd wedi eu heffeithio os ydynt yn dymuno, a'r hyn sydd angen digwydd i unioni pethau er mwyn gallu symud ymlaen gyda'u bywydau.
Mae rôl y Gwirfoddolwr/Gwirfoddolwraig yn gofyn am weithio gyda Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Powys, Plant/ Pobl ifanc, Teuluoedd a'r Dioddefwyr a niweidir gan y drosedd, i helpu osgoi aildroseddu pellach. Bydd aelodau Panel y Gwirfoddolwyr yn siarad ac yn gwrando ar bawb sydd ynghlwm â'r broses ac yn cytuno ar gynllun gweithredu positif ac adeiladol gyda'r plentyn/unigolyn ifanc gyda'r bwriad o ddiwallu'r deilliannau uchod mewn ffordd nad yw'n feirniadol.
Rhoddir yr holl hyfforddiant a chefnogaeth barhaus ochr yn ochr ag Uwch Archwiliad DBS sy'n ofynnol ar gyfer y rôl hanfodol a gwerth chweil hon o fewn ein Cymuned.